Diogelwch Ffyrdd Cymru: Hyfforddiant
Rôl Partneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru yw:
- Canfod yr angen am hyfforddiant priodol a helpu i’w ddatblygu
- Galluogi cynnal cyrsiau hyfforddi
- Darparu adnoddau ar gyfer y cyrsiau hynny er mwyn hyrwyddo hyfforddiant i’r grwpiau o ddefnyddwyr y ffyrdd sydd mewn perygl
- Cyflwyno’r cyrsiau, lle bo’u hangen
- Sicrhau hysbysebu eang a phriodol ar y cynlluniau
- Sicrhau y caiff y cyrsiau eu hasesu o ran eu risg a’u monitro o ran eu diogelwch a’u cynnwys.
Mae Canllawiau Arfer Da wedi’u cyhoeddi ar gyfer llawer math gwahanol o gynlluniau hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd. Enghraifft o’r rheiny yw cynllun hyfforddi Kerbcraft sy’n dysgu sgiliau i blant sy’n cerdded. Mae llawer o gyrff hefyd yn darparu cyrsiau neu adnoddau hyfforddi i grwpiau penodol o ddefnyddwyr y ffyrdd.