Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru: Ystadegau

Road Casualties: Quarter 1, 2008 (provisional)

The latest National Statistics on ‘Road Casualties in Wales: Quarterly Provisional Estimates March Quarter 2008,’ produced by the Welsh Assembly Government were published on 7 August 2008 according to the arrangements approved by the UK Statistics Authority.

Safon Ystadegau Gwladol This is the first time the Welsh Assembly Government has published quarterly road casualties data.

Y Datagniad
Datganiad Ystadegol 117/2008 (PDF 236kB) (Saesneg yn unig)

The key points from this release are:

  • 22 road casualties were reported as killed
  • 295 were reported as seriously injured, and
  • 2,286 as slightly injured
  • The number of total KSI casualties over this period, at 1,412 people, was 2 per cent higher than the previous 12 month period and 30 per cent lower than the average for 1994-98.
  • The number of child KSI casualties over this period, at 142 children, was 4 per cent lower than the previous 12 month period and 51 per cent lower than the average for 1994-98.

Cyswllt:
Ffôn: 029 2082 5085
E-bost: stats.transport@wales.gsi.gov.uk


Marwolaethau ac Anafiadau ar Ffyrdd Cymru, 2006

Ar 28 Mehefin 2007 fe gyhoeddwyd y ffigurau am farwolaethau ac anafiadau mewn damweiniau ar ffyrdd Cymru yn 2006. Fe’u seiliwyd ar nifer yr anafiadau personol a gafwyd mewn damweiniau ar ffyrdd cyhoeddus ac y cafodd yr heddlu wybod amdanyn nhw. Fe’u hanfonwyd ymlaen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Canlyniadau allweddol:

Yn ystod 2006 fe gofnododd yr heddlu yng Nghymru 8,701 o ddamweiniau ar y ffyrdd lle cafwyd anafiadau personol, sef 9 (0.1 y cant) yn llai nag yn 2005. Yn y damweiniau hynny cafodd 12,692 o bobl eu lladd neu eu hanafu, 41 (0.3 y cant) yn llai nag yn 2005. O’r cyfanswm hwnnw:

Lladdwyd 163 o bobl ar ffyrdd Cymru, 17 (9.4 y cant) yn llai nag yn 2005; Anafwyd 1,210 o bobl yn ddifrifol yn 2006, 64 (5.6 y cant) yn fwy nag yn 2005; Cafodd 11,319 o bobl fân anafiadau, gostyngiad o 88 (0.8 y cant) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Datganiad ystadegol Fformat PDF 178kbClick here to download this document in PDF format.

Anafusion Ffyrdd: Cymru 2006

 

Crynodeb o'r wybodaeth am anafusion plant

Yn 2006, cafodd 10 o blant eu lladd, 134 eu hanafu’n ddifrifol a 1153 fân anafiadau ar ffyrdd Cymru.

  • Cerddwyr oedd 434 o’r rhai a anafwyd neu a laddwyd (33%)
  • 152 yn feicwyr (12%)
  • 711 yn deithwyr mewn cerbydau (55%)
  • 54% ohonyn nhw’n fechgyn a 46% yn ferched

Ffigurau’r Adran Drafnidiaeth ynghylch Anafiadau a Marwolaethau ar Ffyrdd Prydain yn 2006: Y prif ganlyniadau

Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi ystadegau am ddamweiniau ar y ffyrdd ym Mhrydain yn 2006, sef ystadegau am anafiadau a marwolaethau mewn damweiniau y cafodd yr heddlu wybod amdanyn nhw.

Dyma rai o’r canlyniadau allweddol:

  • Rhoddwyd gwybod am 258,404 o anafiadau a marwolaethau ar ffyrdd Prydain yn 2006. Roedd hynny 5 y cant yn llai nag yn 2005. Lladdwyd 3,172 o bobl, un y cant yn llai nag yn 2005. Anafwyd 28,673 yn ddifrifol (gostyngiad o 1 y cant ers 2006) a chafodd 226,559 fân anafiadau (gostyngiad o 5 y cant ers 2005)
  • Yn 2006, fe ddigwyddodd 189,161 o ddamweiniau ar y ffyrdd lle cafwyd anafiadau personol, sef 5 y cant yn llai nag yn 2005. Roedd 27,872 ohonyn nhw’n cynnwys marwolaeth neu anaf difrifol.
  • Gwelwyd gostyngiad o 9 y cant yn nifer y plant a laddwyd neu a anafwyd. Lladdwyd 169 o blant, 20 y cant yn fwy nag yn 2005. Nifer y plant a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol yn 2006 oedd 3,294, sef 5 y cant yn llai nag yn 2005. Cerddwyr oedd 2,025 ohonyn nhw, 5 y cant yn llai nag yn 2005.
  • Gwelwyd gostyngiad o 4 y cant ar ffigur 2005 yn nifer y defnyddwyr ceir a gafodd eu lladd neu eu hanafu. Y ffigur oedd 171,000 ac aeth nifer y marwolaethau i lawr 4 y cant i 1,612 o 1,675. Gostwng 2 y cant wnaeth y nifer a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol, o 14,617 i 14,254.
  • Nifer y cerddwyr a gafodd eu lladd neu eu hanafu yn 2006 oedd 30,982, sef 7 y cant yn llai nag yn 2005. Roedd nifer y marwolaethau ymhlith cerddwyr 1 y cant yn uwch nag yn 2005, sef 675, ond gostwng 1 y cant i 6,376 wnaeth anafiadau difrifol.
  • Roedd nifer y beicwyr a laddwyd neu a anafwyd 2 y cant yn is nag yn 2005, sef 16,196. Anafwyd 2,296 ohonynt yn ddifrifol, 4 y cant yn uwch nag yn 2005. Gostwng 1 y cant wnaeth nifer y beicwyr a laddwyd, o 148 i 146.
  • Roedd nifer y rhai a laddwyd neu a anafwyd ar feiciau modur 6 y cant yn is nag yn 2005, sef 23,326 yn 2006. Cododd y nifer a laddwyd 5 y cant i 599 ond gostwng 1 y cant i 5,885 wnaeth y nifer a anafwyd yn ddifrifol.

Darllenwch y bwletin llawn yma Fformat PDF format 622kbClick here to download this document in PDF format.


Crynodeb o’r prif ystadegau ynghylch marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd yn 2005

Yn 2005, cafodd 7 o blant eu lladd, 128 eu hanafu’n ddifrifol a 1260 fân anafiadau ar ffyrdd Cymru.

  • Cerddwyr oedd 501 o’r rhai a anafwyd neu a laddwyd (36%)
  • 164 yn feicwyr (12%)
  • 730 yn deithwyr mewn cerbydau (52%)
  • 56% ohonyn nhw’n fechgyn a 44% yn ferched


Yn 'Anafusion Ffyrdd: Cymru' ('Damweiniau Ffyrdd: Cymru’ gynt), ceir dadansoddiad o’r ystadegau - a gedwir mewn cronfa ddata ganolog - am ddamweiniau ar y ffyrdd yng Nghymru. Er bod y gyfrol honno, y 25ain, yn rhoi sylw i’r flwyddyn galendr 2005, ceir data hanesyddol mewn sawl tabl ynddi. Ceir tablau hefyd sy’n cynnig cymariaethau cenedlaethol a rhyngwladol.
Anafusion Ffyrdd: Cymru 2005



Ffactorau Cyfrannol yn y Damweiniau a Ddigwyddodd ar Ffyrdd Cymru yn ystod 2005
Ebrill 2007


Mae’r bwletin yn defnyddio data am yr anafiadau personol a gafwyd mewn damweiniau ar y ffyrdd. Fe gasglwyd y data gan yr heddlu drwy iddyn nhw lenwi ffurflen Stats19 ar ôl mynd i’r mannau lle’r oedd damweiniau wedi digwydd. O 1 Ionawr 2005 ymlaen, fe gynhwyswyd y data am ffactorau cyfrannol gyda’r set o ddata. Y nod oedd helpu i ganfod pa weithredoedd, methiannau a digwyddiadau allweddol a oedd wedi arwain yn uniongyrchol at y gwrthdrawiad. Am fod y data ynghylch ffactorau cyfrannol yn dibynnu ar fedrusrwydd a phrofiad y swyddog wrth iddo neu iddi adlunio’r digwyddiadau a arweiniodd yn uniongyrchol at y ddamwain, maen nhw’n fwy “gwrthrychol” na data eraill "Stats 19". Dylid cadw hynny mewn cof wrth ddefnyddio’r canlyniadau hyn.


Dyma ganlyniadau allweddol y bwletin:
Y ffactor cyfrannol y sonnir amdano amlaf yn achos damweiniau angheuol yw colli rheolaeth. Ffactorau eraill sy’n fwy tebyg o gyfrannu at ddamweiniau angheuol yw bod y gyrrwr yn ddiofal, yn ddi-hid neu ar frys; teithio’n rhy gyflym o dan yr amodau; a goryrru. Mae’r rheiny, ynghyd â cholli rheolaeth, oll yn awgrymu bod damweiniau angheuol yn fwy tebyg o ddigwydd mewn achosion o oryrru nag mewn damweiniau lle ceir anafiadau yn unig.
Dau ffactor arall sy’n cyfrannu’n amlach at ddamweiniau angheuol yw bod cerddwr wedi methu ag edrych yn iawn a bod y gyrrwr o dan ddylanwad alcohol. Ar y cyfan, mae’r canlyniadau (ar wahân i’r categori bod cerddwr wedi methu ag edrych yn iawn) yn cyd-fynd â’r dadansoddiad gan y Labordy Ymchwil Trafnidiaeth sy’n awgrymu bod cysylltiad rhwng llawer damwain angheuol a safonau gyrru gwael.
O edrych ar y ffactorau sy’n cyfrannu i ddamweiniau lle na cheir ond anafiadau, ac yn arbennig ar fân ddamweiniau, yr awgrym yw ei bod hi’n fwy tebyg mai eu hachos yw camfarnu neu ddiffyg sylw gan yrwyr. Er enghraifft, y ffactorau sy’n fwy tebyg o achosi mân ddamweiniau yw methu â barnu llwybr neu gyflymdra rhywun arall, methu ag edrych yn iawn, neu droi neu symud yn wael.
Darllenwch y bwletin llawn yma Fformat PDF 64kbClick here to download this document in PDF format.



Anafusion Ffyrdd Cymru 2005: Bwletin ar Yfed a Gyrru – Mawrth 2007
Mae’r Bwletin Ystadegol hwn yn asesu’r berthynas rhwng yfed a gyrru ar y naill law ac, ar y llall, ddamweiniau ac anafiadau/marwolaethau ar y ffyrdd yng Nghymru. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau o ddata, daw i’r casgliad bod cysylltiad rhwng yfed a gyrru a’r rhain:
Rhyw 10-15% o’r damweiniau lle cafwyd marwolaeth(au);
Rhyw 7-8% o’r damweiniau lle cafwyd anaf(iadau) difrifol; a
Rhyw 5% o ddamweiniau lle cafwyd anaf(iadau) bach.
Mae cysylltiad rhwng bod cerddwr o oedolyn wedi yfed alcohol a lleiafrif sylweddol o’r damweiniau ar y ffyrdd sy’n cynnwys cerddwyr sy’n oedolion:
Daw asesiadau’r heddlu o’r ffactorau sy’n cyfrannu i ddamweiniau i’r casgliad bod y cerddwr sydd mewn rhyw chwarter o ddamweiniau angheuol a difrifol “dan ddylanwad alcohol".
Darllenwch y bwletin llawn yma Fformat PDF 98kbClick here to download this document in PDF format.



Bwletin Gyrwyr Ifanc - Awst 2006
Mae'r bwletin yn defnyddio data am ddamweiniau ffyrdd sy'n achosi anaf yng Nghymru ac yn cymharu damweiniau yng Nghymru ymhlith gyrwyr ifanc (17 i 25 oed) â damweiniau ymhlith gyrwyr eraill. Mae'r ffigurau'n cynnwys damweiniau hyd at ddiwedd 2005. Dyma rai o'r prif ganfyddiadau:

  • Mae gyrwyr ifanc gwryw 6 gwaith yn fwy tebygol o fod mewn damwain na gyrwyr hyn (26 oed a throsodd; pob gyrrwr hyn, gyrwyr gwryw a benyw gyda'i gilydd).
  • Mae gyrwyr ifanc benyw ryw 3 gwaith yn fwy tebygol o fod mewn damwain na gyrwyr hyn (26 oed a throsodd; pob gyrrwr hyn, gyrwyr gwryw a benyw gyda'i gilydd).
  • Mae gyrwyr ifanc (dynion a menywod) rhwng 4 a 5 gwaith yn fwy tebygol o fod mewn damwain na gyrwyr hyn (26 oed a throsodd; pob gyrrwr hyn, gyrwyr gwryw a benyw gyda'i gilydd).
  • Ers 1999, bu cwymp yn nifer y damweiniau ond cwymp yn nifer y damweiniau ymhlith gyrwyr hyn fu'n gyfrifol amdano.
  • Yn 2005, cafodd gyrwyr ifanc 3,559 o ddamweiniau ffyrdd a achosodd anaf yng Nghymru. Dyna ddwy ran o bump (41 y cant) o'r holl ddamweiniau ffyrdd a achosodd anaf yng Nghymru.
  • Mae cyfran y gyrwyr 17-25 oed sydd wedi bod mewn damwain yng Nghymru yn amrywio o un rhan o'r wlad i'r llall. Mae'r gyfran yn gymharol uwch yn y Cymoedd ac ar Ynys Môn.

Bwletin Ystadegol Fformat PDF 966kbClick here to download this document in PDF format.



Cliciwch yma i weld bwletinau ystadegol eraill.


Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.