Diogelwch Ffyrdd Cymru
Rydyn ni wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y wefan hon yn hygyrch ac yn hawdd i bawb ei defnyddio, pa borwr bynnag y dewiswch ei ddefnyddio, beth bynnag yw cyflymder eich cysylltiad â’r rhyngrwyd, a ph’un a oes anabledd arnoch chi neu beidio.
Dylai pob tudalen ar y wefan hon fod yn ddilys i HTML 4.01 Transitional. Mae’r wefan hefyd yn defnyddio CSS (Taflenni Arddulliau Rhaeadru) dilys.
Lle bynnag y bydd modd, fe ysgrifennir y cysylltau posibl fel eu bod nhw’n gwneud synnwyr allan o’u cyd-destun. Bydd hynny’n fodd i borwyr fel JAWS, Lynx neu Opera dynnu rhestr o gysylltau ar dudalen. Lle bynnag y bydd hi’n bosibl, ni fydd testun cyswllt i’w weld fwy nag unwaith ar dudalen.
Ni fydd unrhyw gyswllt yn agor mewn ffenestr newydd.
Mae pob delwedd o ran cynnwys a ddefnyddir yn y wefan hon yn cynnwys priodoleddau ALT disgrifiadol. Nid yw graffigwaith cwbl addurniadol yn cynnwys unrhyw briodoleddau ALT.
Mae’r wefan yn defnyddio dalennau arddull rhaeadru ar gyfer y drefn weledol. Nid yw’r wefan yn defnyddio ond meintiau ffont cymharol sy’n gydnaws â’r dewis ‘maint testun’ a bennir gan y defnyddiwr mewn porwyr gweledol. Gallwch newid eich gosodiadau testun drwy ddewisiadau’r porwr: yn Internet Explorer, ewch i View > Text size a dewiswch osodiad sy’n chwyddo neu’n lleihau maint y testun; ym mhorwyr Netscape ewch i View > Text size. Dewiswch ‘ganran’ fwy neu lai neu cliciwch ar 'larger’ (neu ‘smaller’) i fynd un maint i fyny neu i lawr.
Mae maint ffeiliau’r gwe-dudalennau wedi’i gyfyngu i 100kb ar y mwyaf. Cyfyngir maint uchaf y ffeiliau y gellir eu llwytho i lawr (mewn fformat PDF) i 500kb. Mae eithriadau i hynny. Os cewch chi broblem wrth lwytho ffeiliau sy’n fwy na 500kb i lawr, cysylltwch â ni ac fe geisiwn ni gynnig ffordd arall i chi gael gafael ar y ddogfen.
Yr un ‘olwg a theimlad’ sydd i bob tudalen ar y wefan. Dyma sut olwg sydd arnyn nhw o’r bôn i’r brig:
Ar frig y tudalen fe welwch chi faner Diogelwch Ffyrdd Cymru. Gallwch chi bob amser glicio arni i ddychwelyd i’r Hafan. Mae cyswllt i’r Hafan yno hefyd.
O dan hynny, mae’r tudalen yn hollti’n ddwy:
1. I lawr ochr chwith y tudalen fe welwch chi enwau’r adrannau. Fe ân nhw â chi i brif is-adrannau a thudalennau’r rhan honno o’r wefan.
2. Yn y gweddill (Cynnwys) cewch chi destun y tudalen rydych chi wedi pori iddo.
Er enghraifft, os porwch chi i’r hafan Addysg:
1. Bydd yr ochr chwith yn cynnwys eitemau’r ddewislen Addysg fel: Cyn-Ysgol, Cynradd ac Uwchradd.
2. Bydd gweddill y tudalen yn dangos cynnwys ynghylch Addysg.
Ar bob tudalen cewch gyfleuster chwilio, sef label sy’n dweud “Chwilio”, blwch golygu i chi deipio iddo’r geiriau yr hoffech chi chwilio amdanyn nhw, a botwm ‘Ewch!’.
Mae set o fysellau cyrchu safonol wedi’u defnyddio er mwyn i’r rhai nad ydyn nhw’n gallu defnyddio llygoden, neu y mae’n well ganddyn nhw ddefnyddio’r bysellfwrdd i symud rhwng prif adrannau’r wefan, a thrwy ddogfennau.
I ddefnyddio’r bysellau hynny yn Internet Explorer, daliwch y fysell Alt a bysell y tudalen perthnasol yr un pryd. Mewn rhai porwyr, gall fod angen i chi wedyn bwyso’r fysell ‘Enter’. Ar Macintosh, gallwch bwyso Ctrl a’r fysell gyrchu.
0 – Hygyrchedd
1 – Hafan
2 – Cysylltwch â Ni
3 – Hawlfraint
Os cewch chi unrhyw drafferth wrth ddefnyddio’r wefan hon ac os credwch chi y gallen ni roi sylw iddo, rhowch wybod. Byddai’n ddefnyddiol petai’ch e-bost yn cynnwys hyn:
- gwe-gyfeiriad(au) y tudalen(nau) sy’n achosi trafferth i chi
- natur eich anabledd
- disgrifiad o’r broblem
- Os bydd gennych chi ateb i’w gynnig, bydd croeso i chi wneud hynny.
Cysylltwch â’r Gwe-Reolwr yn Niogelwch Ffyrdd Cymru.