Road Safety Wales

Croeso i Ddiogelwch Ffyrdd Cymru

Archif Newyddion

Y Newyddion Diweddaraf

Cystadleuaeth Amlgyfrwng Wrth-Yfed a Gyrru

18/11/08

Drink Driving

I hyrwyddo’r neges wrth-yfed a gyrru, gwahoddwyd ysgolion a mudiadau ieuenctid i ddyfeisio, perfformio a recordio cyflwyniad amlgyfrwng byw a bywiog i rybuddio pobl ynghylch peryglon a/neu ganlyniadau yfed a gyrru.


Cyflwynir gwobr o £500 i’r ymgais fuddugol ar gyfer pob rhanbarth, a hynny i’r ysgol/mudiad sy’n ei gynrychioli, ac i aelodau unigol o’r tîm, adeg lansio Ymgyrch Wrth-Yfed a Gyrru Cymru Gyfan yng Ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon, ddydd Iau, 27 Tachwedd.

 

Rhanbarth Enillydd Canmoliaeth Uchel
Gogledd Cymru Jack Cowley a Jordan O’Brien, Canolfan Ieuenctid Saltney, Sir y Fflint Ysgol Uwchradd Castell Alun, Sir y Fflint
Dyfed Powys Clwb Ffermwyr Ifanc Troedrhiwdalar, Powys Tom Van Hamer, Ysgol Gyfun Dyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin
Gwent The Really Wild, Ysgol Gyfun Abertyleri, Blaenau Gwent Ysgol Uwchradd Llantarnam, Torfaen
De Cymru Ysgol Gyfun Birchgrove, Abertawe Ysgol Gyfun Aberpennar, Rhondda Cynon Taf



Cewch weld manylion y gystadleuaeth yma


Parth 20mya yn lleihau damweiniau

10/11/08

20mph Zone Speed Restriction 20mph Zone Speed RestrictionMae'r parthau 20mya a gyflwynwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn Sandfields yn parhau i wneud y strydoedd yn fwy diogel. Mae ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos lleihad parhaus yn nifer y damweiniau anaf personol ers i'r parth a'r mesurau tawelu strydoedd gael eu cyflwyno mwy na chwe blynedd yn Ôl.

Cyn i'r parth gael ei chyflwyno, cafwyd hyd at 30 o ddamweiniau anaf personol bob blwyddyn yn Sandfields.Y llynedd roedd y nifer hwnnw wedi gostwng i 13 yn unig.

Yn yr un modd, ar Ôl cyflwyno mesurau arafu traffig, aeth y nifer i lawr o 20 i 5 y llynedd.

Mae hyn wedi cadarnhau llwyddiant y parth 20mya o ran cadw nifer y damweiniau'n isel. Wrth gymharu'r ffigurau blynyddol, cododd nifer y damweiniau am flwyddyn o ganlyniad i ddargyfeirio traffig drwy YstÂd y Sandfields oherwydd gwaith ar Ffordd Afan.

Ond ers i'r dargyfeirio ddod i ben, mae'r duedd am i lawr eto.

Meddai Pennaeth Priffyrdd, John Flower, "Hoffwn weld cynlluniau tebyg ym mhob ystÂd fawr. Gwelwyd cynnydd yn yr ystadegau ar gyfer 2006 ond erbyn hyn gallwn ddangos bod hynny'n gysylltiedig Â'r gwaith ar Ffordd Afan a maint cynyddol y traffig a oedd yn teithio drwy'r ystÂd.

"Mae gostwng cyflymder cerbydau ar ystÂd fel Sandfields yn gweithio."

Ychwanegodd Aelod y Cabinet dros Briffyrdd, Alwyn Woolcock, "Mae'n bwysig lleihau damweiniau pryd bynnag y bo'n bosib ac mae'n amlwg y bu cyflwyno'r parth 20mya yn Sandfields yn llwyddiant.

"Mae un ddamwain yn ormod, a bydd y cyngor yn parhau i weithio i gynyddu diogelwch ar ein ffyrdd."


Canlyniadau ymgyrch gwisgo gwregys Cymru gyfan

4/11/08

Person putting seatbelt on Cafodd cyfanswm o 2,866 o bobl nad oedd yn gwisgo gwregys eu dal a’u cosbi fel rhan o’r Ymgyrch Gwisgo Gwregys Cymru gyfan.

O’r 8fed hyd at yr 21ain o Fedi, arweiniodd Heddlu De Cymru yr Ymgyrch Gwisgo Gwregys Cymru gyfan, drwy rybuddio gyrwyr eu bod yn peryglu eu bywydau drwy beidio â gwisgo gwregys a chosbi’r gyrwyr a theithwyr sy’n anwybyddu’r gyfraith.

Roedd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar yrwyr ifanc rhwng 17 a 25-oed. Allan o’r 2,866 a gafodd eu dal heb wregys, roedd 808 ohonynt yn perthyn i’r grwp hwn.

Meddai’r Uwch Arolygydd John Turton o’r Adran Gwasanaethau Gweithredol: “Mae peidio â gwisgo gwregys wrth yrru neu deithio yn parhau i fod yn amlwg ar ffyrdd Cymru.

“Mae’n bryder bod gyrwyr a theithwyr yn parhau i fod yn fyrbwyll a pheryglu eu bywydau drwy beidio â gwisgo gwregys.

“Mae hefyd yn siomedig gweld, yma yng ngogledd Cymru, fod 674 o bobl, gyda 229 ohonynt o dan 25-oed, wedi anwybyddu’r gyfraith ac yn parhau i roi eu hunain mewn perygl mewn achos o wrthdrawiad.”

Yn ystod yr ymgyrch yng ngogledd Cymru derbyniodd 674 o bobl cosb benodedig.

Yn ardal Heddlu De Cymru cafodd 893 o yrwyr a theithwyr cosb benodedig.

Yn ardal Heddlu Dyfed Powys cafodd 199 o yrwyr a theithwyr cosb benodedig.

A derbyniodd 1,100 o bobl cosb benodedig gan Heddlu Gwent.

Pobl dan 25-oed

Y nifer o bobl yn cael eu dal heb wregys yn ardaloedd yr heddlu yng Nghymru:

Gogledd Cymru – 229

De Cymru – 200

Dyfed Powys – 38

Gwent – 341

Ychwanegodd Prif Uwch-arolygydd Turton: “Bydd Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd â’n cydweithwyr drwy Gymru, yn parhau i orfodi’r neges gan fod yn llym ar y rhai sy’n anwybyddu’r gyfraith er mwyn arbed bywydau ar ein ffyrdd.”


Diogelwch Ffyrdd yn cael lle amlwg yn noson Gwreichion yn y Tywyllwch

4/11/08

Bydd cannoedd o siacedi gwelededd uchel yn cael eu dosbarthu i blant ar noson tân gwyllt mewn ymgais i'w cadw mor ddiogel â phosib ar ein heolydd.

image depicting Road safety (Sparks in the Dark)

Rhoddwyd y siacedi gan gwmni 3M Gorseinon, a byddant yn cael eu dosbarthu i ddathlwyr ifanc yn nigwyddiad Gwreichion yn y Tywyllwch a gynhelir ar faes San Helen dnod Fercher (Tachwedd 5).

Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe sy'n noddi'r digwyddiad a bydd y tîm wrth law drwy gydol y dathliadau, ynghyd â'r masgod diogelwch ffyrdd, Cochyn y Ceiliog Croch, i roi awgrymiadau diogelwch ffyrdd i blant.

Byddant hefyd yn dosbarthu cylchau allweddi gyda thortshis, bandiau arddyrnau, sticeri sy'n adlewyrchu ac adlewyrchwyr i'w defnyddio ar fagiau ysgol.

Mae pob ysgol yn Abertawe eisoes wedi derbyn siacedi gwelededd uchel, diolch i 3M, ond mae'r cwmni wedi sicrhau bod 500 ychwanegol ar gael i'w dosbarthu ar noson tân gwyllt.

Meddai Jeff Green, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe: "Mae llawer o waith yn cael ei wneud i ledu negeseuon diogelwch ffyrdd i gynifer o bobl â phosib yn Abertawe, a bydd digwyddiad Gwreichion yn y Tywyllwch yn ein galluogi i gyfathrebu â channoedd o blant mewn un lle.

"Bwriad y siacedi sydd wedi'u brandio, a'r deunyddiau eraill a gaiff eu dosbarthu, yw annog plant i feddwl am eu diogelwch pan fyddant yn croesi heolydd yn Abertawe, a gobeithiwn y byddant yn cael yr effaith ddymunol.

"Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth 3M wrth ein helpu i geisio lleihau nifer y damweiniau sy'n digwydd i blant ar ein heolydd.

Bydd y gatiau ar noson Gwreichion yn y Tywyllwch yn agor am 5.30pm, a bydd y digwyddiad yn cynnwys arddangosfa tân gwyllt anferth yn ogystal â pherfformiad gan enillwyr y gystadleuaeth deledu, Last Choir Standing, sef côr Only Men Aloud.

Bydd amrywiaeth o adloniant i blant ar gael hefyd yn ogystal â jyglwyr tân.

Ewch i www.swansea.gov.uk am fwy o wybodaeth.


Gyrwyr yn peryglu bywydau

3/1//08

Croesfan rheilfforddDywedodd cwmni Network Rail bod gyrwyr yng Nghymru yn peryglu eu bywydau drwy anwybyddu rhybuddion ar groesfannau rheilffordd.

Mae 'na ddamwain bron a digwydd bob yn ail wythnos pan mae gyrwyr yn anwybyddu arwyddion a golau neu hyd yn oed yn gwyro heibio'r bariau ar groesfan yn ôl honiadau.

Mae Network Rail yn lansio ymgyrch hysbysebion sy'n dangos canlyniadau trasig camddefnyddio'r croesfannau.

Cafodd yr hysbyseb ei ffilmio'n rhannol yn Llanboidy yn Sir Gaerfyrddin.

Fe fydd yr hysbyseb yn cael ei ddarlledu ar draws y Deyrnas Unedig.

Cerddwyr

Rhwng mis Ionawr a mis Medi 2008 bu born i 20 o ddamweiniau ar groesfannau yng Nghymru.

Yn yr un cyfnod roedd 'na bron i 300 o adroddiadau o achosion camddefnyddio croesfannau rheilffordd ar draws Cymru ond mae'n bosib bod y ffigwr cywir llawer uwch.

Mae cerddwyr yn peryglu eu bywydau ar groesfannau hefyd.

Yn ystod 2008 bu bron i 15 o ddamweiniau gyda cherddwyr.

Dywedodd Mark Langman, rheolwr cyffredinol gyda Networkl Rail, bod pobl yn peryglu eu bywydau yn wythnosol.

"Mae tri gyrrwr bob wythnos yn peryglu eu bywydau a bywydau eraill drwy gam-ddefnyddio'r croesfannau.

"Neges syml sydd ganddo ni i bawb, peidiwch â chymryd y siawns."

View the commercial here


Cofiwch fod yn Llachar ar nos Galan Gaeaf

30/10/08

Mae Uned Diogelwch Ffyrdd Sir Gaerfyrddin yn cylchredeg posteri newydd i geisio cynyddu’r ymwybyddiaeth o’r angen i fod yn Ddiogel a Chael eich Gweld yn ystod nos Galan Gaeaf.

“Y gamp wrth sicrhau Nos Galan Gaeaf ddiogel yw gweld a chael eich gweld,” meddai Keith Griffiths, y rheolwr diogelwch ar y ffyrdd. “Gan fod y clociau newydd fynd yn ôl, bydd llai o oriau o olau dydd i chwarae cast-neu-geiniog ac mae angen i bob un sicrhau y gall pobl eraill ei weld neu ei gweld tra bydd ef neu hi allan yn y tywyllwch.”
Bydd gwisgoedd tywyll – fel y rhai y bydd gwrachod yn hoff o’u gwisgo – yn ei gwneud hi’n anodd i yrwyr eu gweld, a bydd masgiau sy’n cwtogi ar yr hyn y gallwch ei weld hefyd yn berygl i ddiogelwch. Yn lle masgiau, dylid defnyddio colur, a gorau oll os yw’n cynnwys cyfansoddion sy’n disgleirio yn y tywyllwch fel bod plant ac oedolion yn gallu cael eu gweld yn glir.

I gael Nos Galan Gaeaf ddiogel a hwyliog, dyma ambell air i gall: Halloween Poster

- Gwisgwch wisg fflwrolau neu lachar
- Osgowch ddefnyddio gwallt ffug a all eich rhwystro rhag gweld
- Os gwisgwch chi wisg hir, piniwch ei gwaelod i fyny i osgoi baglu drosti
- Cadwch at y palmant. Os nad oes palmant, cerddwch tuag at y traffig
- Ewch â thortsh gyda chi
- Chwaraewch gast-neu-geiniog mewn grwp
- Cynlluniwch eich taith a dewiswch fannau sydd wedi’u goleuo’n dda
- Croeswch y ffyrdd mewn mannau diogel
- Os plant ifanc sy’n chwarae cast-neu-geiniog, dylai rhiant neu warcheidwad fynd gyda nhw


Lliwgar a llacher ddydd a nos

22/10/08

Lliwgar a llacher ddydd a nos'Byddwch yn ddiogel yn y tywyllwch' - dyna neges glir Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth iddi ddechrau nosi'n gynt.

Wrth droi'r clociau nôl y penwythnos hwn, atgoffir rhieni fod y boreau a'r nosweithiau tywyll yn golygu bod plant yn fwy diamddiffyn ar ein ffyrdd gan nad ydynt mor hawdd eu gweld gan fodurwyr. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn gwisgo dillad llachar ac yn cymryd mwy o ofal pan fyddant yn mynd o gwmpas y lle.

Dylai beicwyr hefyd fod yn ymwybodol o'r ffaith fod mynd ar feic heb olau yn drosedd a dylent sicrhau bod y goleuadau cywir ar eu beic - a'i bod yn hawdd i ddefnyddwyr eraill y ffordd eu gweld yn glir.

Mae dillad llachar fflworoleuol i'w gweld orau yn ystod y dydd, yn enwedig mewn tywydd mwll a niwlog ond nid ydynt mor amlwg ar ôl iddi dywyllu. Fin nos dillad llachar sydd orau am fod modd eu gweld yn lampau'r ceir, a gellir rhoi tâp llachar ar ddillad a bagiau ysgol.

Anogir gyrwyr i gynllunio eu siwrneiau'n ofalus i ystyried y gwahaniaeth yn yr amser gan ei bod yn tywyllu'n gynharach ac yn hwyrach yn y bore a fin nos, ac mae angen iddynt fod yn ymwybodol y gall gymryd ychydig yn fwy o amser i deithio.


Hysbyseb Motorbeicio yn llwyddiannus yng ngwobrau fideo Cenedlaethol

20/10/08

BikeSafe Cymru Mae hysbyseb deledu bwerus sy’n ceisio lleihau nifer y trychinebau motor-beic ar ffyrdd Sir Ddinbych a Wrecsam wedi ennill gwobr diwydiant.

Fe enillodd yr hysbyseb, a gynhyrchwyd gan Knew Productions sydd wedi eu lleoli yn Wrecsam, mewn partneriaeth ag asiantaeth hysbysebu speake 2, Caer, wedi ennill y Wobr Agored Orau yng Ngwobrau’r Sefydliad Fideograffi 2008,  a gynhaliwyd yn Stadiwm Ricoh, Coventry ar Hydref 15.

Fe gomisiynodd Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yr hysbyseb 30 eiliad a ddarlledir ar ITV Cymru I hyrwyddo BikeSafe, gyda chefnogaeth lawn gan Gyngor Wrecsam.

Mae’r teitl 'Not Playing Anymore' yn adlewyrchu effaith difrodus gwrthdrawiadau angheuol ar deuluoedd ac anwyliaid ac mae’n ceisio ysbrydoli beicwyr i wella eu sgiliau reidio drwy gysylltu â BikeSafe.

Yn 2007 cafwyd 152 o wrthdrawiadau gyda motorbeicwyr ar draws Gogledd Cymru, 13 ohonynt yn rhai angheuol, roedd 5 o’r rhain yn Sir Ddinbych a 2 yn Wrecsam.  Dengys ymchwil er bod llawer o fotorbeicwyr yn teithio i’r rhanbarth o Ogledd Lloegr, y West Midlands, y Wirral a Chanolbarth Cymru, mae llawer o’r beicwyr sy’n cael eu lladd ar y ffyrdd yng Ngogledd Cymru’n byw yn y rhanbarth.

Meddai’r Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet dros yr Amgylchedd: "Mae gan yr hysbyseb yma neges eithriadol bwerus sy’n amcanu addysgu motorbeicwyr o’r peryglon y maent yn eu hwynebu ar y ffyrdd.  Mae Cynghorau Sir Ddinbych a Wrecsam wedi gweithio gyda Knew Productions a Speake2 i ddargludo ymgyrch gyhoeddusrwydd effeithiol ac rydym yn falch iawn bod y fideo proffesiynol wedi ennill yr acolâd uchel hwn gan ddiwydiant".

Meddai’r Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:  "Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn falch o fod wedi gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych ar yr hysbyseb deledu cymeradwy hwn.  Mae unrhyw beth y gellir ei wneud i leihau nifer y marwolaethau motor-beic ar ein ffyrdd yn gam positif bob amser.  Ni all unrhyw un fethu â gwerthfawrogi effaith marwolaethau ffordd ar deuluoedd a ffrindiau.  Mae’r hysbyseb hwn wedi portreadu’n llwyddiannus yr effaith ar anwyliaid ac mae’n atogffâd noeth i feicwyr i fod yn ‘BikeSafe’."

Ychwanegodd Richard Knew, Cyfarwyddwr Knew Productions a Chymrawd o’r Sefydliad Fideograffi: “Bu ein criw yn gweithio’n wirioneddol galed ar y ffilmio.  Defnyddiwyd camerâu mini arbenigol i gael y lluniau o safbwynt y motor-beic tegan, felly roedd yna benliniau dolurus erbyn diwedd y ffilmio!  Rydym yn wirioneddol falch o ennill y wobr hon drwy’r Deyrnas Gyfunol, ond yn fwy na hynny mae’n foddhaus gweithio ar brosiect sy’n helpu i wella diogelwch ffyrdd o fewn ein rhanbarth.”  

Ychwanegodd Saul Peake, Cyfarwyddwr speake2: "Rydym yn falch iawn o’r cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o BikeSafe a grëwyd gan yr hysbyseb hwn.  Caiff hyn ei arddangos gan gynnydd o dair gwaith yn fwy mewn gweithgaredd ar dudalennau Gogledd Cymru ar eu gwefan.  Ein gobaith yw ail-redeg yr hysbyseb y flwyddyn nesaf ac ymestyn ein gweithgaredd i’r wasg a’r cyfryngau awyr agored."

Click Here To View The "Not Playing Anymore" TV Advert


Dim ond 14% o seddi mewn ceir ym Mhowys sydd wedi eu ffitio yn gywir, yn ôl archwiliadau diogelwch.

20/10/08

Bridgend

Datgelwyd bod 86% o seddi plant mewn ceir a archwiliwyd gan Gyngor Sir Powys wedi eu gosod yn anghywir.

Bellach mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd y Cyngor a fydd yn gwneud archwiliadau i seddi ceir am ddim yn Nhref-y-clawdd ac Ystradgynlais yn ddiweddarach y mis hwn, yn pwyso ar rieni i sicrhau bod eu seddi plant mewn ceir yn cael eu harchwilio.

Dim ond 14% o seddi ceir a archwiliwyd gan yr Uned Diogelwch ar y Ffyrdd yn Aberhonddu a’r Drenewydd a oedd wedi eu ffitio yn gywir. Roedd gan 32% o’r seddi ddiffygion mawr, a oedd yn cynnwys gosod y gwregys diogelwch yn y lle anghywir.

Roedd gan 34% o’r seddi broblem fach oedd angen ei hunioni, oedd yn cynnwys tynhau’r gwregys. Roedd 6% o’r seddi hefyd yn rhai anaddas ar gyfer y cerbyd ac ni ddylent fod wedi eu defnyddio. Roedd y seddi oedd yn weddill a gafodd eu harchwilio naill ai wedi eu condemnio, yn anaddas i’r plentyn neu roedd angen addasu rhywfaint ar yr harnais.

Meddai Sarah Morris, Uwch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd y Cyngor: “Bob blwyddyn mae oddeutu 100,000 o blant yn y DU mewn gwrthdrawiadau a gall y modd y mae’r sedd yn y car wedi ei gosod gael effaith ddifrifol ar p’run a ydynt yn cael eu hanafu ai peidio.

“Rydym yn archwilio sedd y car i weld a yw’n addas i’ch plentyn chi ac a yw’n addas i’ch cerbyd. Mae arbenigwr yn bresennol yn y dyddiau diogelwch a all ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon a all fod gennych.”

Meddai’r Cyng. Gwilym Evans, Aelod y Bwrdd sy’n gyfrifol am Ddiogelwch ar y Ffyrdd: “Byddwn yn annog unrhyw un sy’n defnyddio sedd plentyn mewn car i wneud defnydd o’r archwiliadau am ddim hyn na fydd yn cymryd mwy nag ychydig funudau. Ni fydd yr archwiliadau hyn yn costio unrhyw beth i chi a gallent arbed bywyd eich plentyn.”

Gwneir yr archwiliadau am ddim i’r seddi ceir ym maes parcio’r Cyngor Sir ger y Ganolfan Gymunedol yn Nhref-y-clawdd, ddydd Mercher 29 Hydref ac ym maes parcio archfarchnad y Co-op yn Ystradgynlais, ddydd Iau 30 Hydref. Bydd y swyddogion ar gael rhwng 9.00am a 4.00pm.

I gael gwybodaeth bellach am y dyddiau archwilio neu unrhyw agwedd ar ddiogelwch mewn ceir yna galwch yr Uned Diogelwch ar y Ffyrdd ar 0845 607 6060.


Llwybr Mwy Diogel i Blant Rhaeadr Gwy

17/10/08

Llwybr Mwy Diogel i Blant Rhaeadr Gwy
Mae’r Cyngh Gwilym Evans, Anthea Jones (Swyddog Seiclo Cyngor Sir Powys), Y Pennaeth Ms Linda Jones, Y Cyngh Kelvin Curry, a disgyblion o’r ysgol yn agoriad agor yn swyddogol y cyfleusterau newydd.

Yn awr, gall plant ysgol yn Rhaeadr Gwy fynd ar gefn beic i’r ysgol yn fwy diogel, diolch i well cyfleusterau beicio. Llwyddodd Cyngor Sir Powys i sicrhau £60,000 oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y prosiect, sy’n cynnwys lloches feiciau newydd yn yr ysgol, lledu’r llwybrau a darparu mynedfa ar wahân i dir yr ysgol a’r ffensys sy’n gysylltiedig â hyn.

Agorwyd y cyfleusterau newydd yn swyddogol Ddydd Mercher (Hydref 1) yn ystod prynhawn o ddathliadau yn yr ysgol. Daeth y Cynghorydd Gwilym Evans, Aelod o Fwrdd Cyngor Sir Powys â chyfrifoldeb am Ddiogelwch ar y Ffyrdd, a hefyd y Cynghorydd Sir lleol Kelvin Curry hefyd i’r achlysur.

Dywedodd y Cynghorydd Evans: “Rydym wrth ein bodd yn agor y cyfleusterau newydd yma. Roedd yr ysgol yn arbennig o egnïol yn eu cais am lwybr, ac rydym yn falch o allu sicrhau’r cyllid i alluogi hyn i ddigwydd.’

Dywedodd Ms Linda Jones, Pennaeth Ysgol Gynradd Rhaeadr Gwy: “Rwyf wrth fy modd gyda’r llwybr newydd a’r lloches. Rydym yn awyddus i gymaint â phosibl o’r plant i gerdded ac i seiclo i’r ysgol. Mae’n helpu i greu amgylchedd mwy diogel o amgylch yr ysgol, gyda llai o draffig, ac rydym yn awyddus hefyd i hybu dulliau gwyrdd o deithio."


Dâm bantomeim yn lledaenu neges diogelwch ffyrdd mewn ysgolion

16/10/08

Rocky The Rooster

Bydd plant yn ysgolion Abertawe yn derbyn cyngor ar ddiogelwch ffyrdd gan rhai o gast y pantomeim Cinderella eleni.

Mae Cyngor Abertawe yn cael cymorth rhai o sêr Cinderella sy'n rhedeg dros gyfnod y Nadolig yn Theatr y Grand.

Bydd aelodau o'r cast yn ymweld â nifer o ysgolion gyda hyrwyddwr diogelwch ffyrdd y Cyngor, Cochyn y Ceiliog Croch. Bydd yr ymweliadau'n helpu i drosglwyddo cyngor diogelwch ffyrdd hanfodol i gannoedd o blant ysgol.

Gobeithia diogelwch ffyrdd hefyd i gael mwy o blant i feddwl am ddiogelwch wrth groesi'r heol yn ystod sioeau'r pantomeim.

Mae'r tîm hefyd wedi comisiynu gwisg arbennig ar gyfer aelod rheolaidd y pantomeim, Kevin Johns, i'w gwisgo yn ei rôl fel un o chwiorydd hyll Cinderella.

Dywedodd Jeff Green, Arweinydd Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe, "Mae trosglwyddo neges diogelwch ffyrdd i blant ysgol yn hollbwysig er mwyn eu diogelu wrth iddynt ddefnyddio'n ffyrdd.

"Mae gweithio gyda chast y pantomeim yn ffordd wych o drosglwyddo'r negeseuon pwysig hyn mewn dull sy'n hwyl."

Dangosa'r ffigyrau diweddaraf bod y plant yn derbyn y neges. Roedd 109 o ddamweiniau ffordd yn Abertawe yn cynnwys plant rhwng 0 - 15 oed yn 2006. Mae hyn 50 yn llai na deng mlynedd yn ôl, oherwydd mai'r ffigur cyfartalog rhwng 1994 a 1998 oedd 165.

Dywedodd John Hague, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd yng Nghyngor Abertawe, "Mae addysg diogelwch ffyrdd yn cael effaith gadarnhaol ar ddiogelu plant yn ein cymunedau.

"Mae angen i ni barhau â'r gwaith amhrisiadwy hwn a sicrhau y gall ein plant ddefnyddio ffyrdd i gerdded a seiclo yn ddiogel.

"Hefyd mae angen i fodurwyr chwarae eu rhan a gyrru'n gyfrifol mewn cymunedau, yn enwedig yn agos at ysgolion. Rydym wedi rhoi cyfyngiadau cyflymder o 20mya ar waith o amgylch y rhan fwyaf o'n hysgolion a bwriadwn barhau tan fod y cyfyngiadau cyflymder is hyn yn gweithredu y tu allan i holl ysgolion Abertawe."

Bydd Cochyn a sêr y pantomeim ar eu taith diogelwch ffyrdd o amgylch yr ysgolion rhwng 20 a 24 Hydref.


Disgyblion o Abertawe yn Dystion i Olygfa Damwain

13/10/08

Disgyblion o Abertawe yn Dystion i Olygfa DamwainMynychodd dros 30 o ddisgyblion blwyddyn 10/11 o Ysgolion yr Esgob Gore a Chefn Hengoed, Ddigwyddiad Golygfa Damwain yng nghyfleuster Hyfforddi Gyrwyr Cymru yn Llansamlet yn ddiweddar. Roedd cyfranogwyr yn y digwyddiad yn cynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heddlu De Cymru, Tîm Diogelwch ar y Ffordd Abertawe, Hyfforddi Gyrwyr Cymru a nifer o hyfforddwyr gyrru o ardal Abertawe.

Dywedodd Gareth Rice, Swyddog Diogelwch Rhag Tân yn y Gymuned yn Abertawe:

"Dyma´r diweddaraf mewn nifer o ddigwyddiadau tebyg a gynhaliwyd ar draws ardal Abertawe, sy´n targedu pobl ifanc sydd ar fin, neu sydd newydd ddechrau, dysgu gyrru. Mae´n rhoi cyfle delfrydol i´r bartneriaeth i addysgu gyrwyr newydd ac amhrofiadol am y peryglon real a´r canlyniadau pan eu bod yn mentro allan ar ein ffyrdd."

Derbyniodd y disgyblion fewnbwn yn y dosbarth am beryglon goryrru, canlyniadau peidio â gwisgo gwregysau diogelwch a gyrru tra o dan ddylanwad alcohol/cyffuriau, yn ogystal â chyflwyniadau ar fod yn yrwyr diogel ym mhob agwedd. Rhoddwyd gwybodaeth am y Cwrs Pass Plus Cymru tra llwyddiannus, a ddilynwyd gan daith dywysedig o amgylch car a oedd wedi cael damwain, sy´n dangos y difrod a ddioddefir pan fod car yn cael damwain ar gyflymder o 40 m.y.a..

Rhoddwyd gwers yrru o hanner awr gyda hyfforddwr gyrru cwbl gymwys i bob disgybl (a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru), ac fe wnaeth hyn eu galluogi i roi ar waith yr holl gyngor ar ddiogelwch a roddwyd iddynt yn ystod y dydd.

Dywedodd Amanda Howarth, o Dîm Diogelwch ar y Ffordd Abertawe:

"Mae´r digwyddiad wedi cael ei ddatgan yn llwyddiant, gyda llawer o negeseuon diogelwch ar y ffordd allweddol yn cael eu trafod yn ystod y dydd ? roedd cyfranogiad y disgyblion yn wych."

Ychwanegodd Dave Perry, Cydlynydd Gyrfau Ysgol yr Esgob Gore:

"Roedd hwn yn ddiwrnod ardderchog i´r disgyblion. Roedd yn brofiad i´r disgyblion i weld canlyniadau peidio â gwisgo gwregysau diogelwch a gyrru ar gyflymder amhriodol. Yn sicr, fe wnaeth eu hatgoffa o realaeth".


Allwch chi annog pobl Abertawe i feicio?

10/10/08

Swansea Cyclists

Os ydych chi wedi beicio yn Abertawe, neu wedi bod eisiau gwneud hynny, dyma'ch cyfle i gael dweud eich dweud am Gynllun Gweithredu Beicio Cyngor Abertawe.

Mae Bwrdd Trosolwg yr Amgylchedd, Adfywio a Diwylliant wrthi'n bwrw golwg ar ddatblygiad y cynllun ac am wybod beth yw barn pobl Abertawe am feicio yn yr ardal a'r cyffiniau.

Meddai Rob Speht, Cadeirydd Bwrdd Trosolwg yr Amgylchedd, Adfywio a Diwylliant, "Mae beicio'n ffordd bwysig o leihau tagfeydd yng nghanol y ddinas a gwella iechyd trigolion lleol.

Mae gennym ddiddordeb mewn ymchwilio i ffyrdd newydd o annog beicio yn Abertawe ac rydym yn awyddus i geisio barn pobl â diddordeb."

Bydd pawb sy'n llenwi'r holiadur yn cael y cyfle i ennill beic a gyflwynwyd fel rhodd gan Schmoos o Stryd Wyndham. Cliciwch y ddolen i gwblhau'r holiadur.

Holiadur Beicio Abertawe

I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 637732 neu e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk 


Llwybrau Diogelach yn y Gymuned cyclist riding in countryside

10/10/08

 

Clustnodwyd Porth Tywyn fel ardal a allai elwa o’r cynllun hwn sy’n canolbwyntio ar ddarparu diogelwch a rhwyddineb i ddulliau teithio cynaliadwy, tra’n ymwybodol ar yr un pryd  bod yna nifer o deithiau sy’n gofyn am ddefnydd car preifat o hyd.

I gael gwybod rhagor...


Jessica’n Cael ei Gwobr

9/10/08

Jessica Wright

Jessica Wright, sy’n 22 mlwydd oed yw’r ail i dderbyn gwobr chwarterol Pass Plus Cymru. Cafodd enw Jessica ei dynnu oddi ar restr pob un o’r ymgeiswyr a ddychwelodd ei ffurflen werthuso ar ôl cwblhau’r cwrs. Ei huwch hyfforddwr Pass Plus Cymru oedd Mr Ron Ingall o Ron Ingall School of Motoring a leolir yn yr Eglwys Wen.

Dywedodd Prif Weithredwr GEM Motoring Assist’s, David Williams ‘Rydym yn falch iawn o gael noddi gwobrau’r fenter Gymreig gyffrous hon. Rydw i’n sicr y bydd Pass Plus Cymru yn helpu i wneud gyrwyr Cymreig yfory yn llawer mwy diogel, ymwybodol, ac ystyriol.

Wrth dderbyn ei gwobr dywedodd Jessica, “Mi fwynheais yr hyfforddiant ychwanegol a roddodd Pass Plus Cymru i mi, ac fel gyrrwr newydd mi gefais lawer o gyngor a dysgais lawer o bethau defnyddiol. Rydw i’n argymell y cwrs i bawb sydd newydd basio’u prawf.”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae Pass Plus Cymru yn fenter dda i helpu gyrwyr ifanc i ddysgu mwy o sgiliau gyrru a datblygu i fod yn yrwyr mwy diogel.”

Datblygwyd Pass Plus Cymru ar gyfer gyrwyr amhrofiadol rhwng 17 a 25 i gynnig mwy na’r cynllun Pass Plus sylfaenol. Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae Cyngor Wrecsam yn gallu cynnig y cwrs hyfforddi i yrwyr newydd. Cyfanswm cost y cwrs yw £20 yn unig, gostyngiad sylweddol ar y gost arferol sydd rhwng £120 a £150. Cynhelir y cyrsiau hyfforddi ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam drwy’r flwyddyn.

Gellir cael manylion pellach am y cwrs ar y wefan ganlynol www.dragondriver.com


Y bws mini mwyaf diogel yn y DU yn dod oddi ar y llinell gynhyrchu yng Nghymru

8/10/08

Iovan Mae cwmni o Aberhonddu wedi cael ei ganmol am lansio’r bws mini mwyaf diogel yn y DU. Mae gan yr Iovan, sydd wedi cael ei enwi ar ôl Amddiffynnydd Ieuenctid y Celtiaid, ystod eang o nodweddion diogelwch mewnol ac allanol. Ar hyn o bryd, dyma’r unig fodel sy’n bodloni safonau diogelwch llym BUSK, sef sefydliad diogelwch trafnidiaeth ysgol.

Mae’r bws mini yn ffrwyth llafur partneriaeth fasnachol gyda Phrifysgol Abertawe ac Irisbus Iveco (UK). Mae’r cydweithio hwn yn cael ei ariannu gan y cynllun Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Heddiw, cafodd y bws mini ei lansio gan Ieuan Wyn Jones, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn Aberhonddu wedi i’r model cyntaf ddod oddi ar y llinell gynhyrchu.

Meddai:

Fel Gweinidog, rwy’n hynod o awyddus i ddatblygu’r cydweithio sy’n digwydd rhwng ein prifysgolion, ein colegau a byd busnes.

Mae’r bartneriaeth hon wedi creu a chyflenwi cynnyrch mawr ei angen – dyma’r unig fws mini i gael ei ardystio gan BUSK, felly mae’n gallu cyfiawnhau’r honiad mai dyma’r cynllun bws mini mwyaf diogel yn y DU.

Mae clywed am yr ystod o welliannau diogelwch, gan gynnwys strwythur cryfach a thechnoleg gwydr sydd wedi’i wella er mwyn osgoi anafiadau, wedi cael cryn argraff arnaf i.

Mae’r datblygiad hwn yn amserol iawn. Ar hyn o bryd, mae’r Cynulliad Cenedlaethol ar fin mabwysiadu’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr – un o’r cyfreithiau cyntaf i gael ei chreu yng Nghymru, a fydd yn gwella diogelwch ar fysiau ysgol.

Ymhlith y nodweddion arbennig eraill yn cynnwys mae:

  • gwelliannau i weithdrefnau ymuno â’r bws a dod oddi arno;
  • llwybrau diogel ar gyfer teithwyr mewn cadeiriau olwyn;
  • CCTV;
  • breciau, goleuadau a gwregysau diogelwch gwell;
  • gwaith graffeg gwell ar y tu allan;
  • nodweddion diogelwch newydd ar gyfer y gyrrwr.

Cynllun Asesu Beiciau Modur i’w Lansio

5/10/08

Motorbike assessments Mae cynllun peilot wedi ei anelu at hyrwyddo reidio beiciau modur yn fwy diogel yn y Sir i gael ei lansio ddechrau mis Hydref, cyhoeddodd Cyngor Sir Powys.

Bydd Uned Diogelwch ar y Ffyrdd y Cyngor yn lansio ei Chynllun Asesu Beiciau Modur yng Nghanolfan Adnoddau’r Cyfryngau yn Llandrindod ddydd Llun, 6 Hydref.

Mae’r cynllun ar gael i feicwyr modur sy’n byw ym Mhowys a dyma’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, diolch i gyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Dyfed Powys, bydd y cynllun yn rhoi cyfle i feicwyr modur gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi hanner diwrnod.

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys sesiwn hyfforddi am awr a ddilynir gan reid ddwy awr o hyd gydag aelodau’r heddlu.

Meddai’r Cyng. Gwilym Evans, aelod o’r Bwrdd sy’n gyfrifol am Ddiogelwch ar y Ffyrdd: “Beicwyr modur yw’r defnyddwyr ffyrdd mwyaf bregus ym Mhowys ac mae gennym y nifer uchaf o wrthdrawiadau angheuol sy’n cynnwys beicwyr modur yma o’i gymharu ag unrhyw Sir arall yng Nghymru.

“Rydym am hyrwyddo reidio mwy diogel a chwtogi ar nifer y beicwyr modur sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y ffyrdd ym Mhowys a bydd yr asesiad hwn, ynghyd â’n cynlluniau eraill, yn ein helpu i gyflawni hyn.”

Meddai Sarah Morris, Uwch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd y Cyngor: “Gobeithiwn hyfforddi 50 o feicwyr modur o Bowys cyn diwedd Mawrth 2009 a byddwn yn monitro a gwerthuso cynnydd y cynllun.

“Os bydd yn llwyddiannus, bydd y cynllun yn mynd yn fyw o fis Ebrill nesaf a chynigir y cwrs am bris gostyngol.”

Os hoffech fwy o wybodaeth am y cynllun yna cysylltwch â Sarah ar 01597 826637 neu ebost sarah.morris@powys.gov.uk


Hwb i ymgyrch feicio Ysgol Gynradd St Therese

1/10/08

Mae ymgyrch i annog disgyblion yn Ysgol Gynradd Gatholig St Therese i fynd ar eu beiciau wedi derbyn hwb wedi i reseli beiciau newydd gael eu gosod.

Hwb i ymgyrch feicio Ysgol Gynradd St Therese

Hwb i ymgyrch feicio Ysgol Gynradd St Therese

Derbyniodd yr ysgol arian gan Fenter Ysgolion Iach i brynu'r rheseli, a osodwyd gan DÎm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ystod gwyliau'r haf.

Mae staff yn yr ysgol wedi gweithio'n ddiflino i annog disgyblion i ddefnyddio dulliau iachach o gludiant er mwyn teithio nÔl ac ymlaen i'r ysgol.

Meddai Arwyn Woolcock, aelod y cabinet dros yr amgylchedd,  bod gan yr ysgol y fantais o fod ar dir gwastad ac mae'n agos at gartrefi disgyblion yn ystÂd y Sandfields. 

"Serch hynny, mae bod mewn ystÂd dai mor fawr yn golygu bod mwy o dagfeydd yn yr ardal nag a geir fel arfer gerllaw ysgolion eraill," meddai.

"Wrth feicio i'r ysgol, mae'r plant yn gwneud eu rhan i helpu i leihau tagfeydd, gwella diogelwch i gerddwyr a lleihau llygredd.
"Bydd y fenter hefyd yn cael effaith ar iechyd y plant drwy eu hannog i wneud ymarfer corff yn rheolaidd."

Ers dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, mae disgyblion St Theres wedi gwneud ymdrech arbennig i ddefnyddio'r cyfleuster newydd hwn, nid yn unig i wella eu ffitrwydd ond hefyd i ystyried eu diogelwch drwy lynu at reolau newydd yr ysgol,Dim helmed, Dim Beic!

"Rwyf wrth fy modd gweld bod disgyblion Ysgol Gynradd St Therese yn elwa ar eu rheseli beiciau newydd," ychwanegodd y Cynghorydd Woolcock.

Mae'r Uned Diogelwch Ffyrdd hefyd yn annog beicio diogel drwy gynnig sesiynau sgiliau i holl ddisgyblion yr ysgol.


Posteri yn gorchuddio arwyddion traffig yn rhoi bywydau mewn perygl

1/10/08

road signsMae gludo posteri ar arwyddion traffig ym Mhowys yn rhoi modurwyr a cherbydau mewn perygl ac yn achosi miloedd o bunnoedd o ddifrod, rhybuddiodd y Cyngor Sir.

Tynnwyd posteri oddi ar arwyddion cyfeirio ac arwyddion rhybuddio sydd wedi arwain at beri difrod i’r arwyddion a bydd yn rhaid rhoi rhai newydd yn eu lle.

Meddai’r Cyng. Gwilym Evans, aelod o’r Bwrdd sy’n gyfrifol am Ddiogelwch ar y Ffyrdd: “Mae gorchuddio arwyddion traffig gyda phosteri yn berygl gwirioneddol i fodurwyr ac yn rhoi bywydau mewn perygl.

“Mae arwyddion traffig yma i hysbysu gyrwyr am yr hyn sy’n digwydd ar y ffordd o’u blaenau ac i ddangos y cyfeiriad y maent yn anelu tuag ato. Drwy orchuddio’r arwyddion hyn, ni fyddai modurwr yn ymwybodol o berygl a allai fod o’i flaen a gallai hyn arwain at ddigwyddiad a allai arwain at anafiadau personol neu waeth.

Gosodir arwyddion newydd yn lle’r rhai sydd wedi eu difrodi a threthdalwyr y Cyngor fydd yn talu am hynny. Ond byddwn yn ymchwilio i unrhyw boster sydd wedi ei osod ar arwydd traffig, ac wrth ddarparu arwydd newydd yn ei le byddwn yn gwneud ein gorau i gael y gost yn ôl oddi wrth y sawl sydd wedi gwneud y difrod.


Enillwyr Gwobrau Diogelwch ar y Ffyrdd

1/10/08

MASNACHOL
HutchingsGarage,Rhondda Cynon Taf

Hutchings Garage

CYMUNEDOL
Apollo Cinema, Port Talbot

Apollo Cinema

UNIGOL
Emily Gronow, St Cyres School, Penarth

Emily Gronow

HEBRYNGWR CROESFAN YSGOL
Denise Cummings, Caerdydd

Denise Cummings

ADDYSG
Ysgol Gyfun Strade, Sir Gaerfyrddin

Queen Elizabeth High School, Sir Gaerfyrddin

Addysg


Safonau Masnach Sir Ddinbych a Heddlu Gogledd Cymru

24/9/08

 
policeCanfuwyd 78 o droseddau moduro mewn dim ond un diwrnod fel rhan o weithredu ar y cyd rhwng Safonau Masnach Sir Ddinbych a Heddlu Gogledd Cymru.

Fe stopiodd swyddogion y cyngor a oedd yn gweithio gyda'u cydweithwyr yn yr heddlu, geir ar ffordd  yr A525 Llanelwy i Ruddlan fel rhan o ddiwrnod gorfodi i edrych ar wahanol droseddau.

Y troseddau a nodwyd oedd:

•Cafodd 6 o gerbydau gordrwm hysbysiadau gwahardd
•Rhoddwyd 1 gosb benodol i fodurwr am gario llwyth peryglus
•Fe atafaelwyd un cerbyd am fod â Thrwydded Ecseis Cerbyd a oedd wedi dod i ben
•Gwaharddwyd un tacsi am nad oedd ganddo Drwydded Ecseis Cerbyd
•Roedd dau aelod o’r cyhoedd heb drwydded yrru
•Roedd 1 gyrrwr dros dro’n torri amodau gyrru
•Roedd 3 o yrwyr heb dystysgrif MOT
•Nid oedd 4 o yrwyr yn gwisgo eu gwregys diogelwch
•Rhoddwyd 1 hysbysiad cosb benodol am smygu mewn cerbyd di-fwg
•Rhoddwyd 58 o rybuddion am beidio arddangos arwydd mewn cerbydau di-fwg.

Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet dros yr Amgylchedd: 'Roeddem yn siomedig o nodi cymaint o wahanol droseddau mewn un diwrnod.  Mae gweithgaredd gorfodi fel hyn wedi ei ddylunio i wneud ein ffyrdd yn ddiogelach drwy nodi unrhyw broblemau gyda cherbydau, a ydynt yn ufuddhau i’r gyfraith ac a ddylent fod ar y ffordd yn y lle cyntaf.  

“Mae’r gorfodi hwn yn anfon neges glir i’r cyhoedd fod y troseddau hyn yn cael eu hystyried yn ddifrifol iawn ac ni chânt eu goddef ar ffyrdd Sir Ddinbych.'


'Gwregyswch' yn Sir Benfro

22/9/08

`Gwregyswch` yn Sir Benfro
Yn y llun mae plant o Ysgol WR Eglwys yng Nghymru Spittal yn dal eu padiau gwregysau sedd.

'Gwregyswch a byddwch ddiogel' - dyna'r neges sy'n cael ei roi i ddisgyblion ysgolion Sir Benfro'r hydref hwn.

Fe fu Cyngor Sir Penfro'n cefnogi Heddlu De Cymru gyda'r Ymgyrch Gwregysau Sedd Cymru Gyfan a lansiwyd ar 8 Medi yng Nghaerdydd.

Fe fu swyddogion o dîm diogelwch ffyrdd y Cyngor yn ymweld â gwasanaethau ledled y sir dros y pythefnos diwethaf yn addysgu'r plant ynghylch y peryglon o beidio â gwisgo gwregysau sedd, ac i ddosbarthu padiau gwregysau sedd gyda'r neges:

'Seatbelts save lives! / Mae belt yn achub bywyd'

Rhoddir dwy fil o badiau gwregysau sedd i blant sy'n cynrychioli'r nifer o fywydau yr amcangyfrifir y caiff eu hachub yn flynyddol ym Mhrydain trwy wisgo gwregysau sedd ac atalfeydd plant yn gywir.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Adams, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Chynllunio, fod angen i bobl ddysgu pa mor beryglus yw peidio â gwisgo gwregys sedd. 

“Ein neges i bob gyrrwr a theithiwr yn Sir Benfro o bob oed yw 'gwregyswch a byddwch ddiogel',” meddai. “Mae pobl yn peryglu eu bywydau trwy beidio â gwisgo gwregysau sedd.”

Yn ôl y gyfraith mae'n ofynnol i bob plentyn sy'n teithio mewn cerbyd i ddefnyddio'r atalfa plentyn priodol nes eu bod naill ai'n 135 cm o ran taldra neu'n 12 oed (pa un bynnag ddaw gyntaf). Ar ôl hyn rhaid iddyn nhw ddefnyddio gwregys sedd oedolyn.


Plant Gwynedd yn dysgu am reolau’r ffordd fawr

18/9/08

Plant Ysgol Llanllyfni Mae plant rhai o ysgolion cynradd Gwynedd wedi bod yn cael gwersi arbennig yn ddiweddar a allai arbed eu bywydau.

Mae staff Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd wedi bod yn ymweld ag ysgolion Brynaerau, Pontllyfni; Yr Eifl, Trefor; Llanaelhaearn; Llanllyfni; a Choed Mawr, Bangor i atgoffa’r plant am bwysigrwydd diogelwch yn y car.

Tanlinellwyd pa mor bwysig yw gwisgo gwregys diogelwch am ac am eistedd mewn sedd ddiogelwch arbennig. Fel rhan o’r ymweliad hefyd, derbyniodd y disgyblion badiau gwregysau diogelwch arbennig.

Mae nifer dychrynllyd o yrwyr a theithwyr yn cael eu hanafu ar ein ffyrdd yn flynyddol, ond gellir osgoi rhai o’r anafiadau hyn drwy sicrhau fod pawb yn y car yn gwisgo gwregys.

Dywedodd Lynne Heather Jones, Uwch Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd, ei bod yn bwysig fod pawb yn dysgu’r wers bwysig hon.

Meddai: “Rhaid i rieni wisgo gwregysau diogelwch wrth deithio yn y car gan fod plant yn dysgu trwy ddilyn yr hyn mae eu mamau a’u tadau yn ei wneud.”

Ychwanegodd: “Mae’n angenrheidiol fod oedolion a phlant yn sylweddoli y gall gwisgo gwregys bennu eu tynged petai damwain yn digwydd.

“Mae pobl yn cael eu lladd ar ein ffyrdd bob blwyddyn yn gwbl ddiangen - gall nifer o ffactorau arwain at ddamwain car - ond dro ar ôl tro rydym yn clywed am deithwyr yn marw gan nad ydynt yn gwisgo gwregys.

“Heb wregys gall teithiwr gael ei daflu drwy ffenestr neu ddrws y cerbyd os yw’n gyrrwr yn colli rheolaeth a’r car yn troi drosodd. Yn aml gallai anafiadau a marwolaethau gael eu hosgoi drwy rywbeth cyn hawsed a gwisgo gwregys.”

Mae’r cynllun hwn mewn ysgolion lleol sy’n cael ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd yn rhan o ymgyrch genedlaethol i dynnu sylw at ddiogelwch ar ein ffyrdd.

Fel rhan o’r ymgyrch ar y cyd gyda heddluoedd Cymru bydd heddweision yn targedu gyrwyr nad ydynt yn gwisgo gwregysau diogelwch. Bydd gyrrwr a theithwyr sy’n cael eu dal heb fod yn gwisgo gwregys yn cael rhybudd talu cosb of £30, a gall rhai cael eu herlyn i lys ac wynebu dirwy o hyd at £500.

Yn ystod yr un ymgyrch llynedd cafodd 1,437 o oedolion drwy Gymru eu dal yn teithio mewn ceir heb fod yn gwisgo gwregysau diogelwch.


Diogelwch ar y Ffyrdd i bobl ifanc

12/9/08

Road safety
Ieuenctid Hendy gyda gweithwyr ieuenctid Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc yn ardal yr Hendy ar brosiect sut i fod yn ddiogel ar y ffyrdd.

Nod y prosiect naw wythnos oedd ceisio gyfrannu tuag at ostyngiad yn y rhifau o bobl sy’n cael ei ladd neu’n cael eu hanafu’n ddifrifol ar yr heol, yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddiogelwch wrth yrru.

Roedd y bobl ifanc wedi cymryd rhan mewn gweithdai gyda’r Heddlu a’r Fridag Dan, ble dysgwyd am y peryglon wrth yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.

Cafwyd sesiynau hefyd ar gymorth cyntaf a sut i gynnal a chadw car.

Dywedodd Christopher Cray, Gweithiwr Ieuenctid yn y Gymuned (ardal yr Aman a’r Gwendraeth):

“Roeddwn yn teimlo fod angen sesiynau o’r math yma gael eu trosglwyddo i bobl ifanc, oherwydd mae’r niferoedd o bobl ifanc sy’n cael eu hanafu drwy yrru yn fwy na dwbl hynny o bobl dros 25. Roedd y bobl ifanc wedi elw o’r sesiynau ac rydynt llawer mwy ymwybodol o’r peryglon all ddod o yrru rhyfygus.”

Ychwanegodd Barrie Ashton, Gweithiwr Ieuenctid:

“Mawr hyderwn gall y Gwasanaeth Ieuenctid weithio gyda mwy o bobl ifanc yn y dyfodol ar brosiectau fel hyn, er mwyn codi ymwybyddiaeth ar bob elfen o yrru’n gyfrifol.”


Bargen Arbennig i Yrwyr Anghyfreithlon

2/9/08

PC Ellen Coles with a crushed car Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnig bargen arbennig i yrwyr anghyfreithlon, sef mynd â’u car i ffwrdd a’u wasgu – am ddim!

Mae’r heddlu am dynnu sylw at adran 165 o Ddeddf Traffig y Ffyrdd sy’n rhoi’r hawl i’r heddlu atafaelu unrhyw gerbyd os nad yw wedi cael yswirio neu os nad oes gan y gyrrwr drwydded yrru ddilys.

Ar hyn y bryd, mae Heddlu Dyfed Powys yn atafaelu oddeutu 120 o gerbydau’r mis.

Fel rhybudd i bobl am y gyfraith hon, fe fydd cerbyd sydd wedi cael ei wasgu yn cael ei gludo o amgylch ardal yr heddlu yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Mae’r cerbyd hwn yn rhoi neges glir - os nad oes gennych y dogfennau cywir, bydd yr heddlu yn mynd â’ch cerbyd.

Dywedodd Steve Matchett, Prif Arolygydd Plismona’r Ffyrdd: “Mae rhai gyrwyr yn penderfynu osgoi’r gost o gael yswiriant.

“Fodd bynnag, os ydych yn gyrru eich cerbyd ar y ffordd, mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau fod y cerbyd - a chi - yn gyfreithiol.     Rhaid cael trwydded yrru ddilys ac yswiriant dilys.

“Mae gennym offer Darllen Rhifau Ceir yn Awtomatig (ANPR) ym mhob rhanbarth, ac mae ein heddweision yn gallu gwirio cyfreithlondeb cerbyd mewn eiliadau.

“Os nad oes gennych y dogfennau cywir, fe allai eich car gael ei gymryd oddi arnoch a’i wasgu.

“Fe fyddwch hefyd yn cael eich erlyn am unrhyw droseddau a gyflawnwyd gennych, ac fe allech gael dirwy sylweddol a phwyntiau ar eich trwydded.

“Pwrpas y gyfraith yw diogelu gyrwyr eraill trwy sicrhau fod cerbydau’n ddiogel a bod y rhai sy’n eu gyrru yn gymwys i wneud hynny ac, os digwydd gwrthdrawiad, bod yswiriant gan bobl ar gyfer hynny.

“Peidiwch â chymryd y risg – mynnwch y dogfennau cywir.  Sicrhewch eich bod yn gyrru’n gyfreithlon, neu efallai y byddwch chi yn gwneud defnydd o’n cynnig arbennig”.

Mae’r Heddlu hefyd am rybuddio pobl sy’n caniatáu i eraill yrru eu cerbydau - os na fydd gan y gyrrwr arall y dogfennau cywir, fe all y perchennog a’r gyrrwr gael eu herlyn am droseddau.


Pobl ifanc yn dysgu am beryglon gyrru gwrth gymdeithasol

21/8/08

logo Daeth pobl ifanc ar draws Sir y Fflint at ei gilydd yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug yr wythnos diwethaf ar gyfer 'Diwrnod Gwybodaeth Cynllun Addysg Moduron'. Hwyluswyd y diwrnod gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint ac roeddynt wedi addysgu grwp o 26 o bobl yn eu harddegau am beryglon dwyn ceir a gyrru gwrth gymdeithasol. Ariannwyd y diwrnod gan Bartneriaeth Lleihau Anffodusion ar y Ffyrdd Gogledd Cymru, Siwrnai Saff.

Roedd gweithgareddau'n cynnwys cyflwyniad gan Dîm Sioe Deithiol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, sy'n arddangos sut mae diffoddwyr tân yn gweithio i ryddhau anffodusion a marwolaethau o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd ac ymweld â bws cyffuriau ac alcohol pobl ifanc.

Roedd y bobl ifanc wedi derbyn sgyrsiau gan y gwasanaethau brys ar oblygiadau potensial o bod mewn damwain car neu drosedd yn ymwneud â cherbydau.

Dywed Danny Patton, Aelod o'r Tîm Diogelwch Cymunedol ac un o drefnwyr y diwrnod: "Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wrth eu boddau'n cymryd rhan yn y cynllun arloesol yma.

"Rydym ni'n gobeithio bydd heddiw'n helpu'r bobl ifanc yma i ddeall ein negeseuon achub bywyd, ac i helpu i ostwng y nifer uchel o bobl ifanc sy'n colli eu bywydau mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd."

Ychwanegodd Lesley Bayley, Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint: "Mae gwerthusiad y dyddiau yma wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ostwng troseddau sy'n ymwneud â cheir a gyrru mewn ffordd gwrth gymdeithasol. Rydym ni'n falch iawn o gael cymryd rhan ac addysgu pobl ifanc am oblygiadau eu gweithredoedd."

Dywed un o'r bobl ifanc: "Mae heddiw wedi cael effaith fawr arnaf i ac yn bendant, ni fyddaf yn gyrru ac yfed byth. Mae wedi dysgu imi beidio â mynd i mewn i gar gydag unrhyw un nad wyf yn ymddiried ynddo."


Profion Seddi Ceir Babanod

13/8/08

Child Car Seat Mae Uned Diogelwch y Ffordd Conwy yn annog pawb gyda phlant ifanc i brofi eu seddi ceir babanod a chadw'n ddiogel ar y ffyrdd yn ystod yr haf.

Mae'r Tîm Diogelwch y Ffordd yn ymweld ag archfarchnadoedd a sioeau amaethyddol lleol ac yn annog pobl i ddefnyddio eu gwregys diogelwch a gwneud yn siwr bod seddi ceir babanod wedi'u gosod yn gywir gyda chymorth cyd-weithwyr o Halfords.

Dywedodd Julie Birchall, Uned Ddiogelwch y Ffordd Conwy, "Rydym wedi darganfod nad yw nifer o seddi ceir babanod yn cael eu gosod yn gywir, sy'n fater o bryder mawr.  Byddwn yn annog pawb i ddod draw i brofi eu seddi ceir babanod i fod yn dawelach eich meddwl."

Bydd y sesiwn profi seddi ceir nesaf yn cael ei chynnal ym Maes Parcio Tesco, Cyffordd Llandudno ar 19 ac 20 Awst.


Road Casualties: Quarter 1, 2008 (provisional)

The latest National Statistics on ‘Road Casualties in Wales: Quarterly Provisional Estimates March Quarter 2008,’ produced by the Welsh Assembly Government were published on 7 August 2008 according to the arrangements approved by the UK Statistics Authority.

Safon Ystadegau Gwladol This is the first time the Welsh Assembly Government has published quarterly road casualties data.

Y Datagniad
Datganiad Ystadegol 117/2008 (PDF 236kB) (Saesneg yn unig)

The key points from this release are:

  • 22 road casualties were reported as killed
  • 295 were reported as seriously injured, and
  • 2,286 as slightly injured
  • The number of total KSI casualties over this period, at 1,412 people, was 2 per cent higher than the previous 12 month period and 30 per cent lower than the average for 1994-98.
  • The number of child KSI casualties over this period, at 142 children, was 4 per cent lower than the previous 12 month period and 51 per cent lower than the average for 1994-98.

Cyswllt:
Ffôn: 029 2082 5085
E-bost: stats.transport@wales.gsi.gov.uk


Enillydd cystadleuaeth yn herio gyrwyr yn ne Cymru

6/8/08


collisionCafodd myfyrwraig o Ysgol Gyfun St Cyres ym Mhenarth ei henwi’n enghraifft go iawn i bobl ifanc eraill wedi iddi ennill cystadleuaeth a osodwyd gan Ymladdwyr Tân Penarth yn ymwneud â chanlyniadau gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.


Disgleiriodd Emily Gronow, 17 oed, mewn cystadleuaeth diogelwch ar y ffyrdd gyda’i ffilm ddidrugaredd sy’n seiliedig ar gerdd yn sôn am brofiad go iawn o golli anwylyd mewn gwrthdrawiad ar y ffordd. Trefnodd Ymladdwyr Tân o Wylfa Goch, Gorsaf Dân Penarth y gystadleuaeth ynghynt yn y flwyddyn, gan osod yr her i bobl ifanc gynhyrchu darn o waith a fyddai’n adlewyrchu realiti creulon gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd ac yn anfon neges a fyddai’n helpu i leihau gwrthdrawiadau yn y dyfodol.


Mae’r fideo’n dilyn hanes colled bersonol hynod drist yn ystod gwrthdrawiad car a defnyddiodd Emily ei mam a ffrindiau fel prif sêr y ffilm. Nawr, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n trefnu y bydd y fideo ar gael i’w holl orsafoedd tân er mwyn pwysleisio neges diogelwch ar y ffyrdd trwy lygaid person yn ei arddegau.


Dywedodd John Davies, Rheolwr Gorsaf Penarth, “Pan welson ni’r fideo hwn, roeddem ni’n gwybod yn syth y gallai’r ffilm roi’r neges i bobl eraill yn eu harddegau ac y byddai’n ddefnyddiol ledled y Gwasanaeth. Gall Gorsafoedd Tân eraill defnyddio hwn er mwyn pwysleisio diogelwch ar y ffyrdd i bobl yn eu harddegau. Mae’r prosiect hwn yn ffrwyth ymdrech anferthol gan Emily ac rydym yn gwerthfawrogi’i hymdrechion.”


Mae Ymladdwyr Tân yn cael eu galw i filoedd o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd bob blwyddyn yn ne Cymru. Yn aml, nhw yw’r cyntaf i gyrraedd ac maen nhw’n hollol ymwybodol o’r canlyniadau dychrynllyd. Bydd y fideo a gynhyrchwyd gan Emily yn dod yn rhan o ymgyrch barhaus i leihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd trwy wneud pobl ifanc yn ymwybodol o’r peryglon a mesurau diogelwch syml y dylent eu cymryd.

www.southwales-fire.gov.uk


Cystadleuaeth Swyddogion Diogelwch Ffordd Iau

4/8/08

Cystadleuaeth Swyddogion Diogelwch Ffordd Iau
Enillwyr Cystadleuaeth Swyddog Diogelwch Ffordd Iau Sir Benfro 2008, Ysgol GS Tavernspite. Yn y llun hefyd mae Kirstie-Anne Donoghue, Swyddog Addysg Diogelwch Ffordd Cynorthwyol, Cyngor Sir Penfro. 

Enillodd tîm o Ysgol Gynradd Tavernspite Gystadleuaeth Swyddog Diogelwch Iau Sir Benfro 2008. Llwyddodd y disgyblion i wrthsefyll sialens gref gan Ysgol Iau Hakin, Ysgol GS Johnston, Ysgol Gynradd Llandyfái ac Ysgol CG St Oswald i ennill y cymal terfynol. 

Cynhaliwyd y gystadleuaeth yng Nghanolfan Gweithgareddau Sir Benfro yn Noc Penfro ar Orffennaf 16 ac fe’i trefnwyd gan Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Penfro.

Roedd yn ofynnol i’r disgyblion gyflawni nifer o dasgau gan gynnwys her arwydd ffordd, cwis diogelwch ffordd ac ymwybyddiaeth o berygl. Cyflwynwyd tystysgrifau, tarian a thocynnau i’r disgyblion buddugol.

Aelodau’r timau oedd Swyddogion Diogelwch Ffordd Iau o Sir Benfro, a fu’n tynnu sylw at fater diogelwch ffyrdd yn eu hysgolion cynradd gydol y flwyddyn. 

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Adams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Chynllunio, bod y cwis blynyddol wedi profi’n llwyddiannus iawn a’i fod wedi cynorthwyo ysgolion i dynnu sylw at ddiogelwch ffordd.

Yr ysgolion a fu’n cymryd rhan yng nghymalau cynnar y gystadleuaeth oedd Ysgol WE Angle, Ysgol Ger y Llan, Ysgol Gelli Aur/ Golden Grove, Ysgol Glannau Gwaun, Ysgol GS Johnston, Ysgol GS Orielton, Ysgol GS Doc Penfro, Ysgol GS Stepaside, Ysgol Gynradd Babyddol Santes Mair, ac Ysgol GS Cas-blaidd.


Lansio Cynllun Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd Iau yn Sir y Fflint

22/7/08

JRSOMae Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint wedi lansio cynllun llwyddiannus iawn ar gyfer Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd Iau.

Mae’r fenter wedi’i chynnal mewn sawl rhan arall o’r wlad ac mae’n ffordd effeithiol o hyrwyddo diogelwch y ffyrdd. Mae pedair ysgol eisoes wedi ymuno â’r fenter yn Sir y Fflint – Ysgol Iau Mynydd Isa, Ysgol Bryn Gwalia yn Yr Wyddgrug, Ysgol Sychdyn ac Ysgol y Fron yn Nhreffynnon.

Mae Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd Iau yn helpu eu Swyddog Diogelwch y Ffyrdd lleol i hyrwyddo materion yn ymwneud â diogelwch y ffyrdd yn y gymuned leol. Caiff pob ysgol gynradd ei hannog i benodi dau Swyddog o flwyddyn 6.

Prif nod y cynllun yw rhoi cyfle i blant adnabod problemau diogelwch y ffyrdd yn eu hardal leol a’u helpu i drosglwyddo negeseuon pwysig ymlaen i’w cyfoedion ynglyn â chadw’n ddiogel wrth fynd allan.

Dylai ysgolion sy’n dymuno cymryd rhan yn y cynllun enwebu dau ddisgybl o flwyddyn 6 i fod yn swyddog. Gyda chymorth ac arweiniad Claire Parry, Cynorthwy-ydd Diogelwch y Ffyrdd, bydd y Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd Iau yn hyrwyddo testunau amrywiol megis cadw’n ddiogel, cael eich gweld, diogelwch beicio, diogelwch yn y car, Rheolau’r Groes Werdd, parcio y tu allan i ysgolion, cerdded i’r ysgol a llawer mwy. Mae pob Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Iau yn cael pecyn dechrau sy’n cynnwys llawlyfr, gwybodaeth a chyngor i’w helpu gyda’u rôl bwysig.

Mae’r cynllun yn llawn gwybodaeth a hwyl ac mae’r manteision i’r Swyddogion ac i ddisgyblion eraill yn gorbwyso’r amser a ddyrennir ar gyfer y cynllun o bell ffordd.

Mae’r swyddogion presennol wedi trefnu cystadlaethau yn eu hysgolion i annog yr holl ddisgyblion i feddwl am Ddiogelwch y Ffyrdd. Cynhaliodd Ysgol Iau Mynydd Isa gystadleuaeth i lunio tocyn i roi ar geir sydd wedi parcio’n anghyfreithlon y tu allan i’r ysgol er mwyn pwysleisio’r peryglon sy’n gysylltiedig â pharcio ar linellau igam-ogam; Trefnodd Ysgol y Fron, Treffynnon gystadleuaeth poster i lunio cymeriad diogelwch y ffyrdd yn ogystal â digwyddiad Cerdded i’r Ysgol ac maent yn gobeithio cynnal cwis diogelwch y ffyrdd cyn diwedd y tymor. Mae Ysgol Bryn Gwalia yn yr Wyddgrug wedi trefnu tair cystadleuaeth - bydd y babanod yn edrych ar leoedd diogel i chwarae, bydd blwyddyn 3 a 4 yn archwilio Rheolau’r Groes Werdd a bydd blwyddyn 5 a 6 yn edrych ar wisgo gwregysau diogelwch.

Meddai’r Cynghorydd Tony Sharps, aelod gweithredol dros yr Amgylchedd, Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r Swyddogion wedi gweithio’n eithriadol o galed i drefnu eu cystadlaethau sydd i gyd wedi bod yn llwyddiant mawr yn yr ysgolion a’r cymunedau. Llongyfarchiadau i bob ysgol sydd eisoes yn cymryd rhan.”


CCTV ar fin cael ei gyflwyno ar gludiant ysgolion

16/7/08

A school coach (generic)Bydd bysus sy'n cludo plant nôl ac ymlaen i ysgolion yn Abertawe yn cael CCTV newydd yn dilyn cyhoeddiad gan y Cynulliad eu bod am fuddsoddi arian i wneud cludiant i ddisgyblion yn fwy diogel.

Caiff rhan o'r arian ei ddefnyddio, yn ôl pob tebyg, i baratoi canllaw sy'n rhoi cyngor i blant ar sut i ymddwyn yn gyfrifol wrth deithio ar fysus.

Mae cyfanswm o £626,000 wedi cael ei roi i Gonsortiwm Cludiant De-orllewin Cymru (SWWITCH) sy'n cynnwys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr a Sir Benfro.

Mae swyddogion cludiant Cyngor Abertawe yn dweud eu bod eisoes wedi llunio côd ymarfer ar gyfer cwmnïau bysus ysgolion ac am ychwanegu canllaw manylach ar gyfer disgyblion sy'n teithio ar fysus.

Mae consortiwm SWWITCH hefyd wedi cyflogi dau swyddog penodedig i oruchwylio'r prosiect ac ymgynghori am gynlluniau gydag ysgolion a chwmnïau cludiant ar draws y rhanbarth.

Croesawodd John Hague, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd, y newyddion am yr arian. Dywedodd, "Gofalu bod safonau teithio i'r ysgol mor uchel â phosib yw ein nod cyffredinol o ran diogelwch a diogeledd. Mae miloedd o ddisgyblion yn teithio i'r ysgol ar fws ac rydym am iddyn nhw gyrraedd pen eu taith yn ddiogel.

"Bydd yr arian yma'n rhoi'r cyfle i ni ac awdurdodau eraill i wella pethau ymhellach."

Meddai Cath Swain, Arweinydd Tîm Cludiant i Deithwyr Cyngor Abertawe, "Rydym yn cludo oddeutu 4,000 o ddisgyblion Abertawe i'r ysgol ar hyn o bryd ar hyd tua 100 o lwybrau gwahanol. Rydym yn derbyn adroddiadau am ymddygiad gwael o bryd i'w gilydd ac mae trafodaethau blaenorol gyda chwmnïau cludiant ac ysgolion wedi tynnu sylw at fanteision cyflwyno CCTV.

"Bydd yr arian yn rhoi'r cyfle i ni fwrw golwg ar y camau yma yn ogystal â chyhoeddi côd ymarfer y gall disgyblion gadw ato."


Taith Ysgolion - Dysgu am ddiogelwch ar y ffyrdd

14/7/08

Disgyblion ardal Dysynni gyda Meinir Gwilym yn dysgu am reolau’r ffordd fawr
Disgyblion ardal Dysynni gyda Meinir Gwilym yn dysgu am reolau’r ffordd fawr

Mae Cyngor Gwynedd wedi cynnal sioe deithiol o amgylch ysgolion ardal Meirionnydd lle cafodd disgyblion cynradd Cyfnod Allweddol 1 gyfle i ddysgu mwy am ddiogelwch ar y ffyrdd.

Fel rhan o'r daith, cafodd y disgyblion gyfle i gyd-ganu gyda'r gantores boblogaidd Meinir Gwilym, gan ddysgu am ddiogelwch ar y ffordd. Cafodd y plant hefyd gyfle i gwrdd Carys Ofalus, cymeriad diogelwch ffyrdd Cyngor Gwynedd, a bu Carys y gath yn dysgu'r plant sut i groesi'r ffordd yn ddiogel.

Dywedodd Claire Evans, Swyddog Diogelwch y Ffordd Cyngor Gwynedd:

"Mae sicrhau fod disgyblion ieuengaf Gwynedd yn dysgu am reolau'r ffordd fawr yn allweddol bwysig, ac rydym yn gobeithio fod dysgu mewn ffordd hwyliog a gwahanol fel y sioeau teithiol yma yn golygu fod y plant yn cofio'r rheolau pwysig.

"Rydym yn falch iawn fod Meinir Gwilym wedi ymuno gyda'r daith ac fod cyfle i'r disgyblion ganu am reolau sy'n atgoffa'r disgyblion am bwysigrwydd gwisgo gwregys yn y car ac i feicio'n ofalys ar y ffordd. Mae dysgu rheolau syml fel hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ddiogelwch y plant ar y ffordd."


Ein Gorau Glas - Gwasanaethau Argyfwng a Diogelwch Cymunedol

9/7/08

Out of the BlueMae ‘Gorau Glas’, sy’n cael ei gynnal gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn digwydd ym Mharc Bute, Caerdydd ar 11 a 12 Mehefin 2008 a gellir ei fynychu yn rhad ac am ddim!

Trefnwyd digwyddiad diogelwch cymunedol tebyg o’r enw ‘Achub Cymru’ a oedd yn llwyddiannus iawn ac yn para am ddau ddiwrnod yn yr haf, gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yng Nghastell Caerdydd y llynedd. Roedd hwn yn ddigwyddiad pleserus a oedd wedi ei drefnu’n hynod o dda, ond peidiwch â chymryd ein gair yn unig am hyn, edrychwch ar yr hyn oedd gan nifer o’n partneriaid a rhai o’r miloedd o ymwelwyr i’w ddweud.


Diogelwch Ffyrdd Cymru - Gwobrau Diogelwch ar y Ffyrdd 2008

9/7/08

Chevron Texaco

Cefnogir gan Chevron Texaco

Mae Gwobrau blynyddol Diogelwch Ffyrdd Cymru yn cydnabod arferion diogelwch da, prosiectau arloesol a chyfraniadau personol ym maes diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru. Mae Cynllun y Gwobrau’n rhoi cyhoeddusrwydd i’r cyfraniadau a wneir i gyrraedd y targedau o ran gostwng nifer yr anafiadau a marwolaethau ar y ffyrdd, ac yn cynyddu’r ymwybyddiaeth ohonynt.

Dyma’r pum categori o wobr:

Y Wobr Gymunedol – Cydnabod gwaith Grwpiau Gwirfoddol, Awdurdodau Iechyd a phartneriaethau sy’n ymwneud â rhwystro damweiniau ar y ffyrdd.

Y Wobr Addysg – I staff a disgyblion/myfyrwyr sydd wedi ymgymryd â phrosiectau arloesol a gweithgareddau eraill ym maes diogelwch ar y ffyrdd.

Gwobr i Unigolyn – I unrhyw un yng Nghymru sydd wedi cyfrannu’n gyson neu’n unigryw i ddiogelwch ar y ffyrdd ac atal damweiniau.

Y Wobr Fasnachol – I fusnesau a sefydliadau yng Nghymru sydd wedi cefnogi a/neu wedi hybu hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd.

Gwobr yr Hebryngwr(aig) Croesfan Ysgol – Cydnabod hebryngwr(aig) croesfan ysgol sydd wedi dangos ymroddiad ac ymrwymiad i’w swydd yn gyson.

Dylid cyflwyno enwebiadau (ynghyd ag unrhyw ddeunydd ategol perthnasol) ar y ffurflen ganlynol erbyn dydd Gwener 22 Awst 2008 fan bellaf. Caiff enillwyr y Gwobrau eu gwahodd i dderbyn eu Gwobr yng nghinio Cynhadledd Diogelwch Ffyrdd Cymru ddydd Llun 29 Medi 2008 yn y Future Inns yng Nghaerdydd. Caiff enillydd y Wobr ym mhob categori £100 a chofrodd.

Cliciwch yma i gael y Ffurflen Enwebu

Enillwyr Gwobrau Diogelwch ar y Ffyrdd - 2007


Disgyblion Bangor yn dysgu am reolau'r ffordd fawr 

2/7/08

Yr actores Manon Ellis gyda disgyblion Ysgol Glan Cegin, Bangor yn dysgu am reolau’r ffordd fawr
Yr actores Manon Ellis gyda disgyblion Ysgol Glan Cegin, Bangor yn dysgu am reolau’r ffordd fawr

Cadw at reolau syml ond pwysig - dyna oedd y neges i ddisgyblion iau Ysgol Glan Cegin, Bangor yn ddiweddar wrth iddyn nhw dderbyn tystysgrifau diogelwch y ffordd fel rhan o gynllun Kerbcraft.

Wrth iddynt gwblhau rhan o gwrs cynllun diogelwch y ffyrdd Kerbcraft gyda chymorth Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd, cafodd disgyblion Ysgol Glan Cegin ymweliad gan yr actores Manon Ellis sy'n chwarae rhan Michelle yn rhaglen deledu boblogaidd "Rownd a Rownd".

Ar ôl bod allan gyda'r disgyblion yn dysgu am y rheolau, cyflwynodd Manon Ellis y tystysgrifau i'r plant. Fel rhan o'r cynllun Kerbcraft, cafodd y disgyblion fudd o fynd allan o gwmpas yr ardal i ddysgu sut i gadw yn ddiogel ar ochr y ffordd, ac mae'r tystysgrifau yn cydnabod eu gwaith da.

Mae cynllun Kerbcraft yn dysgu plant 5-7 oed i gerdded yn ymyl ffordd yn fwy diogel drwy fynd â nhw ar ffyrdd go iawn a dangos iddyn nhw fod gwneud y penderfyniadau cywir, ac ymddwyn yn gywir, yn gallu eu helpu i fod yn ddiogel. Caiff y plant eu cymryd allan o'r ysgol, mewn grwpiau o ddim mwy na thri, gan wirfoddolwyr sydd wedi cael hyfforddiant.

Fel rhan o'r gwersi cynllun Kerbcraft, mae'r plant yn:

Dewis Lleoedd a Llwybrau Diogel i Groesi'r Ffordd

Caiff y plant eu helpu i adnabod peryglon a dod o hyd i leoedd eraill i groesi.

Croesi'n Ddiogel lle mae Ceir wedi'u Parcio

Caiff y plant eu dysgu i ddefnyddio strategaeth ddiogel i groesi yn ymyl ceir sydd wedi'u parcio - os bydd hi'n amhosibl eu hosgoi.

Croesi'n Ddiogel yn ymyl Cyffyrdd

Caiff y plant eu cyflwyno i broblemau cyffyrdd syml a chymhleth ac fe ddysgan nhw strategaeth i edrych yn systematig i bob cyfeiriad.

I gael gwybod rhagor...


Rhybuddio gyrwyr ifainc am beryglon cudd mewn ceir ail law

2/7/08

Mae bywydau gyrwyr ifainc yn cael eu rhoi mewn perygl gan ddelwyr sy’n gwerthu ceir ail law nad ydynt yn weddus i fod ar y ffordd, rhybuddiodd Cyngor Sir Powys.

collision Mae Gwasanaeth Safonau Masnach y Cyngor yn tynnu sylw at waith a wnaed gan eu cydweithwyr cenedlaethol ac ymarferiad a wnaed yn ddiweddar i brofi ceir ail law a brynwyd. Datgelodd y prawf fod 5 allan o 8 o geir ail law a brynwyd yn ystod ymgyrch gudd ddiweddar yn rhai nad oeddent yn ddiogel i gael eu gyrru.

Meddai Clive Jones, Prif Swyddog Safonau Masnach y Cyngor: “Roedd y diffygion a ganfuwyd gan y gwaith hwn yn arswydus – roedd y ceir yn anniogel i’w defnyddio ac ni ddylent fod ar y ffordd, felly ni ddylent fod yn cael eu gwerthu ar gwrt blaen unrhyw fasnachwr.

“Mae’n drosedd ddifrifol i werthu neu gynnig cerbyd i’w werthu nad yw’n cydymffurfio â’r deddfau sy’n llywio’r gwaith o adeiladu a defnyddio cerbydau modur. Nid oes unrhyw elfen o rybuddio’r prynwr ac nid yw unrhyw achos o beidio â bod yn ymwybodol o’r ddeddf yn esgus ar unrhyw gyfrif.

“Faint bynnag a dalwch am gerbyd, mae gennych hawl i ddisgwyl ei fod yn ddiogel, yn addas i fod ar y ffordd ac yn cydymffurfio â’r gyfraith. Mae ymarferion prynu fel hyn yn hanfodol i warchod y cwsmer rhag prynu cerbydau peryglus.

“Mae cyflwr gwael cerbydau yn ffactor gyffredin sydd wedi cyfrannu at ddamweiniau traffig ar y ffyrdd ac mae’r arolwg hwn yn dangos bod llawer o gerbydau a allai arwain at farwolaeth y gyrrwr ar y farchnad. Gorau po fwyaf o ddamweiniau y gallwn eu hatal drwy annog gyrwyr i gael ceir wedi eu harchwilio cyn iddynt brynu. Rydym yn pwyso ar bob gyrrwr ifanc i gael car wedi ei archwilio gan beiriannydd annibynnol cyn ei brynu neu i fynnu cael MOT llawn cyn ei brynu.

“Dylai defnyddwyr brynu oddi wrth fusnesau dilys a fydd wedi archwilio’r cerbydau cyn eu rhoi ar werth – dylid dweud wrth bobl eu bod yn cymryd mwy o risg pan brynant geir o ochr y ffordd.

“Y cyngor gorau y gallwn ei roi yw mynnu cael tystysgrif MOT llawn, newydd bob amser, oherwydd bod hyn yn rhoi gwarchodaeth diogelwch sylfaenol ac arwydd o’r modd mae’r injan yn gweithio. Os bydd modurwyr yn cael unrhyw broblemau gyda cherbyd maent wedi ei brynu, dylent gysylltu â Consumer Direct”.

I alw Consumer Direct ffoniwch 08454 04 05 06 neu 08454 04 05 05 i gael eu gwasanaethau Cymraeg neu ymwelwch â www.consumerdirect.gov.uk


Mabwysiadu cynllun hyfedredd beicio ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain

25/6/08

BeiciauHeddiw (dydd Mercher, 25 Mehefin), cyhoeddwyd y bwriad i sefydlu safonau cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant beicio yng Nghymru mewn ymgais i wella diogelwch a chynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy’n beicio.

Yn ystod Cynhadledd Cerdded a Beicio yng Nghaerdydd, meddai Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, y byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn buddsoddi £250,000 i hyfforddi mwy na 100 o hyfforddwyr i addysgu’r safonau newydd hyn ledled Cymru.

Y nod yw cynyddu nifer yr hyfforddwyr sy’n gymwys i ddarparu safon gyson o hyfforddiant a fydd yn paratoi plant ac oedolion i feicio ar ein ffyrdd ni heddiw. Meddai Ms Davidson:

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i ysgogi mwy o bobl i feicio – fel ffordd o deithio; fel ffordd o wneud mwy o ymarfer corff; ac fel ffordd o dreulio amser yn yr awyr agored a mwynhau ein cefn gwlad.

Rhaid i ni oll leihau ein hôl-troed carbon, a gall beicio helpu i wneud gwahaniaeth go iawn yn hyn o beth – yn arbennig am fod y rhan fwyaf o’n teithiau mewn car yn llai na 5 milltir o hyd.  Gyda chost moduro ar gynnydd, mae beicio yn rhad, yn iach ac yn ffordd gynaliadwy o deithio.

Pleser mawr, felly, yw cael cyhoeddi’r fenter newydd hon, a ariennir eleni gan Lywodraeth y Cynulliad i annog mwy o bobl i feicio.  

Mae’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Beicio eisoes wedi cael eu mabwysiadu gan nifer fach o awdurdodau lleol yng Nghymru, ond bydd yr arian newydd a’r bartneriaeth â CTC – sefydliad cenedlaethol beicwyr y DU – yn helpu i sicrhau eu bod yn cael eu mabwysiadu ledled Cymru.

Gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Elusennol CTC a’r Cyngor Chwaraeon, bydd y cyllid sy’n werth £250,000 dros dair blynedd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod y Safonau Cenedlaethol yn cael eu mabwysiadu ledled Cymru ochr yn ochr â’r brand Bikeability llwyddiannus.

Meddai Kevin Mayne, Cyfarwyddwr CTC:

Hyfedredd beicio ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yw Bikeability. Mae’n rhoi hyder i rieni a phlant deithio ar eu beiciau bob dydd o dan amgylchiadau go iawn.  Pleser mawr i ni yw gweld Llywodraeth y Cynulliad yn annog mwy o bobl i feicio.  Bydd y cyllid hefyd yn caniatáu i ni gyflogi Swyddog Datblygu Hyfforddiant Beicio, a fydd yn gyfrifol am gefnogi darparwyr gweithgareddau beicio yng Nghymru wrth iddynt annog mwy o bobl i ddefnyddio eu beiciau.  

Meddai Ms Davidson:

Mae CTC yn amcangyfrif bod tua 10% o ddisgyblion blwyddyn 6 yn cael rhywfaint o hyfforddiant beicio, ond yn anaml iawn y gwneir hyn ar y ffordd.  Rydym am weld hyn yn cael ei newid yn sylweddol trwy raglen o waith i hyfforddi mwy na 100 o hyfforddwyr yn y Safonau Cenedlaethol, a fydd wedi hynny yn darparu hyfforddiant beicio priodol i ysgolion ac oedolion.  Mae swyddog prosiect newydd yn cael ei recriwtio hefyd i helpu i gydlynu’r gwaith hwn.


Mae Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
25/6/08

Mae Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi cynnal ei phedwaredd Gynhadledd Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot.

JRSO Neath Port Talbot

Ers i Glwb y Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau ddechrau ym mis Ionawr 2004, mae 46 o Ysgolion Cynradd ac Iau wedi sefydlu'r cynllun. Nod y clwb yw amlygu materion diogelwch ffyrdd o gwmpas eu hysgolion a'u cymunedau lleol drwy Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau (SDFfI) dynodedig, sy'n cael eu hethol i gyflawni'r rÔl yn eu hysgol.

Darparodd y Gynhadledd gyfle i SDFfI gasglu gwybodaeth a syniadau, rhannu arfer da a hyrwyddo diogelwch ffyrdd ymhellach mewn ffordd ddifyr a phleserus. Hefyd, cafodd y SDFfI gyfle i arddangos y gwaith diogelwch ffyrdd maent wedi'i wneud drwy gydol y flwyddyn yn eu hysgol.

Yn ystod y gynhadledd cynhaliwyd nifer o weithdai a gweithgareddau rhyngweithiol i'r SDFfI gymryd rhan ynddynt.

Meddai'r Cynghorydd Arwyn Woolcock, Aelod Bwrdd y Cabinet dros Wasanaethau Gofal Stryd a Phriffyrdd: "Roeddwn wrth fy modd yn gweld cynifer o Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau yn y gynhadledd hon, a ddarparodd gyfle gwych i rannu gwybodaeth a syniadau ynghylch materion diogelwch ffyrdd.

"Mae'r Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau wedi gweithio'n galed drwy gydol y flwyddyn, a hoffwn ddiolch i'r holl ysgolion sy'n parhau i gefnogi'r fenter werthfawr hon."

Bu swyddogion Heddlu De Cymru, Gwasanaeth TÂn ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a ThÎm Arolygu'r Awdurdod yn mynychu'r gynhadledd, gan ychwanegu at brofiadau'r disgyblion.


Agor llwybr newydd

24/6/08

Agor llwybr newydd

Mae llwybr cerdded a seiclo newydd wedi ei agor ger y Drenewydd. Bydd y llwybr 3k rhwng Llanllwchaearn ac Aberbechan yn sicrhau llwybr diogel a hygyrch ar hyd llinell camlas Maldwyn.

Bydd y llwybr di-draffig yn agor cyfleoedd i bobl leol deithio mewn dull mwy cynaliadwy ac iach. Mae’r darn newydd o lwybr yn rhan o lwybr 81 y Rhwydwaith Seiclo Genedlaethol o Aberystwyth i’r Amwythig.

Mae’r prosiect £70,000 wedi ei gydlynu gan Gyngor Sir Powys a’i ariannu gan Ddyfrffyrdd Prydain, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru. Rhoddwyd cymorth hefyd gan Ddwr Hafren a Thrent a Sustrans.

Meddai’r Cynghorydd Gwilym Evans, Aelod Bwrdd Cyngor Sir Powys gyda phortffolio dros seiclo a diogelwch ar y ffyrdd: “Rydym yn hynod o falch fod y llwybr hwn wedi ei agor. Mae’r llwybr yn hygyrch i bawb – o seiclwyr a cherddwyr i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio - gan ei wneud yn atyniad lleol gwerthfawr.

“Mae’r prosiect yn dangos pa mor dda y gall gweithio drwy bartneriaeth a chyllid weithio i ddatblygu cyfleuster ardderchog i’r gymuned i gyd. Gobeithir y bydd yn bosibl denu cyllid yn y dyfodol i gysylltu adrannau eraill o’r llwybr i’w ehangu i Abermiwl”.


Archif Newyddion



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2008 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.